BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eco'r Wyddfa
Y frenhines yng NghaernarfonBwydo'r Frenhines
Mehefin 2009
Cogydd ifanc lleol yn cael cyfle i goginio ar gyfer achlysur arbennig.

Ar ei hymweliad diweddar a Chanolfan Busnes Prifysgol Bangor, Castell Caernarfon a Rheilffordd yr Ucheldir, bachgen o Dan y Coed fu'n gyfrifol am baratoi'r fwydlen gogyfer a'r ymweliad brenhinol.

Addysgwyd Marc Roberts yn Ysgol Gynradd Cwm y Glo, Ysgol Brynrefail a cholegau Pencraig a Llandrillo, ble bu'n dilyn cyrsiau coginio, arlwyo, a rheolaeth bwyd.

Dechreuodd ar ei yrfa yng Ngwesty Gwel y Llyn, Llanberis, dan arolygaeth Mr Arthur Rogers a fu'n chef yng Ngwesty'r Adelphi yn Lerpwl.

Wedi cwblhau ei ddiploma, cafodd swydd chefyn y Brifysgol ym Mangor a'i ddyrchafu maes o law yn rheolwr.

Bellach, mae'n Chef Gweithredol Arlwyo Mandolin yn y Ganolfan Rheolaeth yn y Brifysgol, a dyna sut cafodd y fraint o baratoi bwyd ar gyfer yr ymweliad brenhinol - a hynny ar gymeradwyaeth Uchel Siryf Gwynedd.

Ac i'r rhai ohonoch sydd â diddordeb yn yr hyn a blesiodd y gwesteion yn fawr iawn, dyma'r fwydlen a baratowyd gan Marc.

Cwrs Cyntaf: Terin Pore, Bricyll a Pistachio ar wely 0 ddail gwyrdd, gyda salsa pinafal a bara crystiog.
Prif Gwrs: Medaliynau o Gig Oen Cymreig ar Fwtrin Rhosmari, gyda Mwtrin Cennin a Chreision Pannas.
Pwdin: Gellyg bychain wedi eu potsio mewn gwin port gyda hufen iâ fanila.

Ac yr oedd y llythyr a dderbyniwyd o Balas Buckingham ddeuddydd wedi'r achlysur yn tystio fod pawb wedi mwynhau'r blasusfwyd.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy