| Wel, fe benderfynodd Anti Mary (Mrs Mary Hughes, Glanllyn, Llanfaglan) fynd am dro i ben yr Wyddfa! 'Beth sy' mor arbennig yn hynny?' meddech chi. Mae Anti Mary yn ei 90au ac yn weddw i'r diweddar Richard Hughes a fu'n gweithio ar yr adeilad oedd yno o'r blaen. Roedd hi am weld drosti ei hun
sut le oedd y caffi newydd.
Chafodd hi mo'i siomi. Fe gafodd ddiwrnod braf, sych a chlir a thrip bendigedig. Dyma lun ohoni wrth dalcen yr adeilad newydd. O, gyda llaw, fe gafodd Anwen ei nith a finne fynd efo hi! Eryl Thomas
 |