Roedd llawr uchaf y bws yn llawn o gefnogwyr balch y band Anubis. Hogia o Ddyffryn Nantlle yw Anubis sef Liam Beck ac Ifan Jones o Lanllyfni a Gwion Owen o'r Groeslon. Daw'r pedwerydd aelod, Steve Pharrell o'r Rhyl. Ffurfiwyd y band rhyw ddwy flynedd yn ôl. Mentrodd yr hogia i gystadlu yng nghystadleuaeth i fandiau ifanc yn Eisteddfod Casnewydd eleni. Rhaid oedd perfformio set ugain munud o ganeuon gwreiddiol. Bu saith o fandiau yn cystadlu dros gyfnod o ddeuddydd. Roedd y safon yn uchel, ond cyhoeddwyd mai y band a greodd yr argraff fwyaf ar y ddau feirniad, Huw Stephens ac Ian Cotrell, oedd Anubis. Dyfarnwyd y wobr o £1000 iddynt ynghyd â sesiwn recordio C2 yng nghlwb nos y TJ's nos Sadwrn ola'r Eisteddfod. Tipyn o gamp, a'r hogia wedi gwirioni. Daeth criw o Ddyffryn Nantlle i gefnogi'r hogia yn TJ's a chawson nhw mo'i siomi. Cafwyd perfformiad egnïol gan y rocars a'r gynulleidfa hen ac ifanc wedi mwynhau. Llongyfarchiadau i'r pedwar cerddor dawnus. Maen nhw wrthi'n brysur ar hyn o bryd yn paratoi i fynd i stiwdio i recordio tair cân gogyfer â sesiwn C2 Radio Cymru. Mae'r £1000 mewn cyfrif banc yn barod i'w wario ar offer newydd i'r band. Da iawn chi hogs. Edrychwn ymlaen at glywed eich cerddoriaeth ar Radio Cymru a phwy a ŵyr, ella bydd 'na CD cyn bo hir. O bydded i'ch awen barhau! Yn y llun, efo'r cloc (cychwyn tua dau!): Liam Beck, Ifan Jones, Steve Pharell a Gwion Owen.
 |