| Roedd yn gystdleuaeth o safon uchel iawn ac o ganlyniad mae Siân wedi cael gwahoddiad i gynnal cyngerdd gyda Chôr Meibion Caernarfon ddiwedd mis Medi. Mae Siân yn 18 oed ac yn gobeithio dilyn cwrs canu mewn sioe gerdd yn Llundain y flwyddyn nesaf. Ar ôl pendroni, penderfynodd Siân ohirio ei lle yn y coleg yn Llundain a chymryd blwyddyn allan i ychwanegu at ei phrofiadau mewn perfformio. Canodd Siân gyda Michael Ball yn ddiwedar, yn ei gyngerdd yn yr Apollo yn Llundain ac mae wedi cel ei chynnwys fel rhan o'r DVD o'r cyngerdd, oedd yn fraint fawr gan nad yw hyn yn digwydd gyda Michael Ball yn arferol. Mae Siân yn gobeithio canu eto gyda Michael Ball ac mae ganddi nifer o brosiectau cyffrous o'i blaen yn ystod y flwyddyn nesaf. Mae hi a'i chwaer Alys wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth sy'n cael ei noddi gan Universal Records ddechrau'r mis nesaf, felly pobl lwc i'r ddwy. Mae Siân eisoes wedi canu mewn nifer o achlysuron fel priodasau, penblwydd arbennig a chyn ebryngau ac yn awyddus i gael mwy o brofiadau fel hyn yn ogystal â chanu mewn cyngherddau.
 |