A dyna gafwyd ar noson wlyb ddiwedd Medi yng Nghapel y Groes. Roedd y capel yn orlawn i glywed gair gan Alun Ffred, A.C., Jerry Hunter, Judith Humphreys, Anna Jên a Liz Perkins.
Cafwyd ffilm fer yn dangos rhai o Gymru yn ymweld â fferm goffi yn Nicaragua a phobl y wlad honno yn dweud sut y gall masnachu teg wneud y gwahaniaeth rhwng byw a marw. Ar y diwedd, bu Meinir Gwilym yn hael iawn yn cefnogi'r achos drwy ganu inni yn ddi-dâl.
Dangoswyd cryn frwdfrydedd yn ystod y noson, a dyma oedd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf i ymgyrchu i gael Dyffryn Nantlle yn ddyffryn masnach deg.
I ennill y statws hwnnw, rhaid perswadio'r mwyafrif o sefydliadau'r dyffryn, yn gapeli, swyddfeydd, ysgolion a siopau'r cylch i brynu a chynnig nwyddau masnach deg.
"Mae tuedd inni feddwl mai dim ond sôn am goffi yr ydym, ond fel y gwelwyd ar y stondin y
noson honno, mae myrdd o ddewis", meddai Ben Gregory, un o'r rhai drefnodd y noson.
"Mae Co-op Penygroes yn gwerthu coffi, te, gwin, siocled, cacenni a bananas masnach deg, ond gellir hefyd cael gafael ar fisgedi, bwyd brecwast, ffrwythau sych a sawl peth arall blasus iawn, oll efo marc masnach deg arnynt."
Y siop fasnach deg agosaf yw Cynnyrch Cyfiawn yng Nghonwy, sef y siop a agorwyd gan Liz Perkins. Os hoffech helpu efo'r ymgyrch, neu os ydych eisiau cael gafael ar nwyddau masnach deg, ffoniwch Jerry a Judith, ar 880605 neu Ben ac Angharad ar 882134. Wrth gwrs, mae Capel y Groes ers tro byd yn gwerthu nwyddau masnach deg wedi'r oedfaon.
Diolch i un o flaenoriaid y capel, Ifor Baines, am yr englynion a gyfansoddodd yn arbennig ar gyfer yr achlysur.
Elw anheg a'n geilw ni - i uno
Dan faner, a thorri
Ar drais masnachwyr di-ri
Fyn gynnal trefn o gyni.
Man lle bu gormesu maith - a chau dwrn,
Masnach Deg rydd obaith
I wladwyr y caledwaith
Hawlio mwy yn dal am waith.
O wledydd sy'n llawn tlodi - heno daw
Y gri daer i'n sobri.
I aelwydydd caledi
Effro'n awr fo'n dyffryn ni.
Ifor Baines