Llywyddwyd y cyfarfod ar 8 Rhagfyr gan Geraint Summers, Cadeirydd Pwyllgor Ymddiriedolaeth J.J. Thomas. Cafwyd eitemau graenus gan ddisgyblion yr ysgol ac anerchiad diddorol gan Eleanor Williams, yr ysgrifenyddes am flynyddoedd. Bu'n olrhain peth o hanes J.J. Thomas ac amgylchiadau sefydlu'r elusen. Talodd deyrnged arbennig i Hugh Williams fu'n un o'r swyddogion am gyfnod maith. Talwyd y diolchiadau gan Dic Roberts.
Mae J.J. Thomas yn enghraifft nodedig o'r chwarelwyr ddangosodd eu doniau mewn gwahanol ffyrdd, dynion heb fawr ddim addysg ffurfiol ond yn bobl alluog. Fe'i ganed yn Nhŷ Ucha, ardal Rhostryfan yn 1860 a bu'n gweithio yn y chwareli lleol yn hogyn ifanc, ond gadawodd i fynd i fyw at ei ewyrth, Thomas Williams, yn Broughton-in-Furness.
Un o Fron Oleu, Rhostryfan oedd Thomas Williams ac roedd yntau wedi amlygu ysbryd mentrus a gadael yn llanc ifanc gan ddod yn berchennog chwarel Ulpha yn nyffryn Duddon. Yn drychinebus, bu foddi yn ei chwarel ei hun yn 1880.
Dechreuodd J.J. Thomas weithio yn chwareli llechi ardal y llynnoedd. Mynychodd ddosbarth nos i ddysgu Saesneg a symudodd i Kendal yn 1886 ac yno y bu weddill ei oes.
Yn y man daeth yn brif reolwr ar chwarel Tilberthwaite, ac yn wir, gwnaeth ei ffortiwn yno. Bu'n faer Kendal deirgwaith, bu ar Gyngor Sir Westmorland am 46 o flynyddoedd ac yn 1936 fe'i gwnaed yn Freeman of the Borough of Kendal.
Dros y blynyddoedd daeth yn wybodus mewn daeareg gan ddod yn Fellow of the Geological Society (FGS). Roedd galw mawr am ei gyngor ar faterion daeareg chwareli a mwynfeydd, cyn belied â Mecsico a'r Unol Daleithiau.
Hen lanc ydoedd, nodedig am ei haelioni, ac wedi ei farwolaeth yn 1942 gadawodd symiau o arian i Brifysgol Cymru ac i bentref Rhostryfan.
Roedd yr arian i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r tlawd a'r anghenus, i weddwon chwarelwyr, i godi elusendai, i Gapel Horeb a'r Eisteddfod leol. Sefydlwyd Ymddiriedolaeth J. J. Thomas i weithredu yn ôl ei ddymuniad, ac mae'r pwyllgor wedi rhannu llogau byth ers hynny.
Does dim angen elusendai bellach, gwerthwyd y tai i chwyddo'r coffrau, a phrin yw gweddwon chwarelwyr erbyn heddiw, ond mae'r gymuned yn elwa yn flynyddol o'i haelioni. Mae Ysgol Rhostryfan, myfyrwyr a'r henoed yn parhau i dderbyn rhoddion.
Dadorchuddiwyd y gofeb gan Mrs Caroline Grundy, nith i J.J. Thomas a braf oedd gweld criw da o'r teulu yno i dalu teyrnged i'w perthynas. Gwnaed y gofeb yng ngwaith Inigo Jones ac arni yr englyn hwn o eiddo Geraint Lloyd Owen.
Ei galon lawn haelioni - ei ofal
Ei gyfoeth o'r llechi
A rannodd a bro ei eni,
Arllwys aur er ei lles hi.
Diolch i bawb a gymerodd ran ac a gynorthwyodd gyda'r trefniadau, i'w wneud yn bnawn i'w gofio i'r gymuned.
Dewi Tomos