| Rai blynyddoedd yn ôl cyflwynwyd cwpan gan y teulu er cof am Dafydd Bwtch (tad Paul) ar gyfer cystadleuaeth yn adran y cwningod gwyn yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd. Dyma'r pedwerydd tro i'r cwpan ddod yn ôl i gartref Paul, a'r tro hwn un o gwningod gwynion Erin aeth â hi. Yn ogystal, enillwyd nifer o wobrau eraill ganddynt yn adran y cwningod. Felly, mae 'Cwpan Taid' yn ôl yn Y Groeslon am flwyddyn arall. Go dda, ynte!
 |