Actiwr a sgriptiwr. Aelod o Fwrdd Theatr Genedlaethol Cymru a Chadeirydd Equity yng Nghymru. Awdur ac actiwr 'Porc Peis Bach '. Yn nyddiau'r pantomeim Nyff, y Dylwythen Deg. Syr Wynff ap Concord y Bos gyda Plwmsan. Arwr plant Cymru. Blaenor ym Methlehem, Gwaelod-y-Garth. Hogyn y Gweinidog. Un o hogia Llanllyfni.Y busnas golff 'ma
Oherwydd mod i wrthi'n brysur yn gweithio gormod ac yn rhy galed (yn ôl fy nheulu), aeth y merched 'cw, Meira, fy ngwraig a Bethan a Rwth, y ddwy ferch, allan a phrynu set gyfa o glybiau golff imi'n anrheg ar fy mhen-blwydd ym mis Ionawr. Eu bwriad oedd cael dad allan o'r stydi, a'i gael i fwynhau awyr iach a chwmnïaeth ambell gyfaill mewn gem gyfeillgar ryw fin nos ar rai o gyrsiau golff ysblennydd yr ardal hon.
Mae Geraint Price, cyfaill imi o Lantrisant, newydd ymddeol o'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, ac addawodd yntau fy mhartneru os cawn i set go lew o glybiau golff, a chofrestru am ambell wers i'm cymhwyso ar gyfer y rhyfeddol arswydus gêm. (Rwy'n cymryd yn ganiataol ei fod o yn feistr arni ei hun!) Purion. Cytunais i roi tro arni, unwaith y byddwn wedi gorffen ysgrifennu'r chweched gyfres (a'r olaf) o Porc Peis Bach ar gyfer S4C. Cyrhaeddodd y diwrnod hwnnw ddydd Iau d'wethaf - 22 Ebrill 2004.
Wedi tri mis o ymlafnio yn fy stydi ar y gyfres, a phum mis arall cyn hynny ar sgwennu fy hunangofiant i Wasg Gomer (mae i'w ryddhau dros yr Haf, gyda llaw), deuthum i olau ddydd o ffwrnais greu fy stydi, a doedd dim modd imi, bellach petawn i eisiau, hyd yn oed - osgoi fy addewid i'r merched i chwarae'r dywededig golff.
Mae gen i gof i nhad 'stalwm sgwennu ysgrif yn un o'i lyfrau ar sut i dreulio'u oriau hamdden gynyddol er budd corff ac enaid. Cynhyrchodd stribed-ffilm, hefyd, ar yr un thema o dan y teitl 'Dysg inni gyfrif ein dyddiau'. Man cychwyn ei ddadl wrth geisio perswadio pawb o bwysigrwydd gwario oriau hamdden yn adeiladol, oedd nodi'r ffaith frawychus honno fod pob copa walltog ohonom (a'r rhai heb wallt, hefyd) yn treulio traean ein bywydau yn cysgu.
Ffaith arall ganddo oedd fod oriau gwaith yn lleihau bob blwyddyn (neu mi oedden nhw hyd ddiwedd y 60au), a hirhoedledd dyn yn cynyddu. (Clywais yn ddiweddar gan wybodusyn fod posibl i ddyn fyw, bellach, hyd 150 oed. Yn wir, credai fod yr unigolyn hwnnw eisoes wedi'i eni.) Tasg anoddaf dyn, felly, nôl nhad, fyddai gwybod beth i'w wneud gyda'r holl oriau hamdden ychwanegol hyn oedd fwyfwy ar gael iddo?
Fy mhroblem i, ar y llaw arall, ydi darganfod digon o oriau mewn diwrnod imi'u galw'n oriau hamdden! Rwy'n cyfaddef mod i'n gallu bod yn berson obsesiynol iawn ynghylch popeth dwi'n ei wneud. Mae gwaith, felly, yn gallu ymestyn yn rhyfeddol o hawdd i lenwi pob awr o'r dydd i mi, os na fyddaf yn ofalus. Gwybod hyn amdanaf oedd y merched, mae'n siŵr, wrth brynu'r clybiau golff imi. A gwybod oeddent fod darganfod mesur o gydbwysedd rhwng gwaith a hamdden yn hanfodol imi os oeddwn am obeithio goroesi o'm pumdegau hwyr i mewn i'm chwedegau cynnar a thu hwnt. 'It's all about balance, my friend', meddai cyfaill imi'n ddiweddar. Cymedroldeb, mewn geiriau eraill. Hwnna ydio! Cymedroldeb ym mhopeth.
Wn i ddim amdanoch chi, ond yn bersonol, os caf fy hun yn gorwneud unrhyw beth: boed waith, wylio teledu, bwyta a.y.b. mae fel tase'r cydbwysedd yn fy mywyd yn mynd yn syth allan o drefn, (yn ogystal â'm coluddion os digwydd imi loddesta'n ormodo!!). Mae dyddiau'r sbri ar y ddiod gadarn drosodd i mi, diolch i'r drefn. Ond mae mwy nag un ffordd o golli cydbwysedd mewn bywyd, ac o gael Wynff o'i wely yn crwydro'r llofft yn anniddig, coeliwch chi fi. A dyna, hyd y gwela i, yw'r bygythiad pennaf imi efo'r golff 'ma: mynd i eithafion gydag o, nes mod i'n aberthu pob awr sbâr i droedio'r meysydd golff ar draul pob diddordeb arall - gwaith, dyletswydd i'm teulu a.y.b. Ond i mi, mae perygl gwaeth na hynny, hyd yn oed: sef fod golff yn tyfu i feddiannu fy meddwl yn gyfan gwbl, i fod yn obsesiwn, fel mod i'n gallu meddwl am ddim arall ond waldio pêl.
Fel alcoholig sy'n gwella ers deuddeng mlynedd, bellach, gwn yn iawn sut beth yw methu meddwl am ddim ond un peth bob awr effro o'r dydd. Am 27 mlynedd, alcohol, dod o hyd i fwy ohono, sicrhau fod gen i ddigon wrth gefn, a chuddio'r aflwydd rhag y teulu - oedd yn meddiannu fy meddwl drwy'r amser. Rŵan mod i'n rhydd o'r obsesiwn difaol hwnnw, peth ynfyd iawn fyddai ffeirio alcohol am obsesiwn arall, sef golff. Ac eto, mae gadael i'r ofn o suddo i beth felly reoli fy mywyd yn gaethiwed ynddo'i hun.
Fel d'wedodd ffrind imi'n ddiweddar, 'Defnyddia ofn fel rheswm dros gyflawni rhywbeth Wynford, yn hytrach nag fel esgus i beidio'. Dyna wna i felly, gyda'r golff 'ma. Bod yn ymwybodol, bob amser, fod gen i duedd i ymgolli yn y pethau 'ma, ond mentro iddi serch hynny, gan wybod fy mod i'n adnabod fy hun yn drylwyr erbyn hyn, ac mai dyna (ynghyd â ffydd) yw'r ffordd sicraf o drechu pob obsesiwn.
Bore heddiw dychwelais o'm hail wers golff gyda Peter Johnson yng nghlwb y Dyffryn, Hensal. Bum yno am hanner awr - ac yn cael hwyl arni, na fu'r rhostiwn beth. Mae rŵan yn amser cinio, ac rydw i wedi cyrraedd y frawddeg hon yn fy llith i Bet Tŷ'n Pant. Yn ystod y prynhawn, af am dro gyda'm hwyresau bach, Begw ac Efa Grug a heno, mae fy ngwellhad yn cymryd y flaenoriaeth - fel bob amser.Cofiaf stori am ddarlithydd yn dangos ffiol wydr reit fawr i'w fyfyrwyr. Llanwodd hi a cherrig gan ofyn iddynt, "Ydi'r ffiol yn llawn?" "Yndi", meddent hwythau."Nac ydi," meddai'r darlithydd, "edrychwch eto." A llanwodd y ffiol, rhwng y cerrig, gyda graean i'r top. "Ydi hi'n lIawn rŵan 'ta?" "Yndi," meddent drachefn."Nac ydi. Edrychwch eto." A'r tro hyn, tolltodd dywod mân i mewn i'r ffiol, rhwng y graean a'r cerrig. "Ydi hi'n llawn rŵan?" holodd."Nac ydi - mwy na thebyg!" (Roeddent yn dechrau dysgu!) '''Da chi'n iawn i ddeud hynny." meddai'r darlithydd. A thywalltodd ddau beint o ddŵr i'r ffiol rhwng y tywod man, y graean a'r cerrig. "Ydi hi'n lIawn rŵan?" "Yndi!", meddent yn unfrydol, derfynol.
"Da chi'n iawn," meddai'r darlithydd. "Beth mae hynny'n ei brofi?" Doedd gan yr un ohonynt obedeia beth oedd yr atebiad i'w gwestiwn. "Wel," meddai'r darlithydd yn flinedig. "Mae'n profi hyn: os rowch chi'r cerrig i mewn i'r ffiol yn gyntaf - y pethau pwysig - mae ganddoch chi le, wedyn, i'r graean, y tywod man a'r dŵr - y pethau lIai pwysig. Ond petaech chi wedi rhoi'r dŵr, dweder, i mewn yn gyntaf, fyddai fyth le i bethau pwysig yn y ffiol wedyn."
Y peth pwysig, digamsyniol yn fy mywyd i, yw diogelu fy sobrwydd. Wedi imi roi'r flaenoriaeth i hwnnw, mae gen i le wedyn i Meira a'r teulu, ac yn arbennig Begw ac Efa, fy wyresau bach; fy ngyrfa a'r oriau rwy'n treulio yn fy stydi; y ffilmio yn y gogledd dros yr Haf; bod yn aelod o Fwrdd Theatr Genedlaethol Cymru; bod yn flaenor yn fy eglwys ym Methlehem, Gwaelod-y-Garth; yn gadeirydd Equity yng Nghymru ac yn noddwr yn y ganolfan driniaeth i alcoholigion yn Rhoserchan, ger Capel Seion yng Ngheredigion. Barnaf, bellach, fod gen i le sbâr, o bosibl, i chwarae ambell gêm o golff, hefyd! Ac onid dyna sy'n cyfoethogi dyn? Yr amrywiaeth diddordebau sy'n cyfrannu cymaint i glytwaith cyfoethog bywyd? Rwy'n diolch i Meira a'r merched, felly, am ymestyn fy niddordebau fel hyn, ac am fy annog i ddysgu chwarae golff.
Os clywch chi sgrech Syr Wynffaidd o gwmpas y gogledd dros yr Haf, a 'Four!' yn cael ei weiddi fel tase einioes dyn yn y fantol, fi fydd o mae'n siwr, yn hamddena o ffilmio'r chweched gyfres o Porc Peis Bach. Dewch draw am sgwrs - erbyn hynny mi fyddai'n arbenigwr ar golffio, ac yn gwybod popeth am arwyr y gêm, mae'n siŵr. Mwy na thebyg, 'nabod fi, fyddai'n un ohonyn nhw fy hun!
Wynfford Ellis Owen