BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Lleu
Elizabeth JonesAnti Leus yn 100 oed
Rhagfyr 2006
Mrs Elizabeth Jones
Fe'i ganwyd ym Mhenffordd, Rhosgadfan ar 1 Tachwedd 1906 yn un o ddeg o blant Robat John a Kate Roberts.
Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Rhostryfan gan adael yn 13 oed. Mynd i weini wedyn i Blas Tirion, Llanrug yn 1929 a chartrefu yn Nhan-ffordd, Y Waunfawr.

Symudwyd i Dan Gelynnen, Y Waunfawr lle ganwyd eu mab, Richard Melfyn Jones ar 1 Mawrth 1938.

Yn 1940 symudodd y teulu i Fryn Gwyrfai lle buont yn gofalu am hen gapel bach Penrallt tan 1952 pan symudasant i'r Brithdir, Rhosgadfan. Collodd Mrs Jones ei gwr ar ôl symud i Fro Cadfan, 28 Tachwedd, 1978.

Yn ôl j'r dyddiau cynnar pan oedd rhyw 7 i 8 oed.

Byddai brêc ceffylau yn aros ger Penffordd a byddai Leus yn llithio'r ceffylau am ryw geiniog yr wythnos.

Roedd y teulu yn selog iawn yn yr eglwys yn y Rhos a cherddent yno drwy bob tywydd ar y llwybr drwy'r Gaerwen, a pharhaodd Anti Leus yn ffyddlon i'w chapel a'r holl gymdeithasau yr oedd ynghlwm â hwy yn ardal Rhosgadfan.

Roedd yn mwynhau mynd i'r neuadd i wylio dramâu ac eisteddfodau, ac ati.

Os byddai Nedw yn sôn am drip roedd yn un o'r rhai cyntaf i roddi ei henw i lawr. Bu cyn belled â Llundain un waith yn gweld y Black & White Minstrels Show.

Roedd yn hoffi gwylio'r teledu gyda reslo yn un o'i ffefrynnau a Big Daddy a Mick McManus yn uchel iawn ganddi, a hefyd ar brydiau rasus ceffylau. Symudodd i lawr i Fro Gilbert, Rhostryfan ar ddiwedd y 1980au a bu'n hapus iawn yn y Rhos erbyn hyn yn nain a hen nain groesawus.

Mae Anti Leus yn berson addfwyn, cymwynasgar, haelionus iawn gyda gwên a chroeso ar ei haelwyd bob amser. Dymunir iddi flynyddoedd lawer eto yn ein mysg a phob bendith i'r dyfodol.

Geraint Summers


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy