| Un o bleserau mwyaf ym mywyd Katie Wyn oedd canu. Dechreuodd gystadlu yn ifanc iawn dan adain a dylanwad cryf ei thad ar aelwyd y cartref yn Llandwrog. Yn ddiweddarach bu'n cystadlu ar unawdau soprano a chanu deuawdau gyda'i chwaer a chael hyfforddiant am gyfnod gan y diweddar Evan Lewis, Bangor. Ar ôl egwyl o rai blynyddoedd oherwydd cleisio drwg i dannau'r llais, magu pedwar o blant a ffermio, fe ail gydiodd yn ei diddordeb o ganu. Dechreuodd gystadlu ar yr Emyn ar hyd a lled Cymru a hefyd Glannau Mersi. Bu ar lwyfan y Genedlaethol bum gwaith a dod i'r brig deirgwaith ac enillodd yn Eisteddfod Pontrhydfendigaid naw gwaith, bum gwaith yn olynol. O ganlyniad roedd ganddi dros gant a hanner o gwpanau, ynghyd â sawl tarian a phlatiau arian wedi eu hennill mewn amrywiol Eisteddfodau.
Yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000, cafodd ei hanrhydeddu drwy gael ei derbyn i'r Orsedd. Braint iddi hefyd oedd cael ei gwahodd i offrymu Gweddi'r Orsedd yn Eisteddfod Meifod 2003.
Canu i roi mwynhad oedd ei nod bob amser, boed hynny mewn Eisteddfodau, cymdeithasau llenyddol neu gartrefi henoed. Ei ffydd roddai iddi'r ysbrydoliaeth i'w galluogi i ganu Emynau gyda theimlad ac arddeliad.
Cyhoeddir y CD hon gan y teulu er cof amdani. Bydd unrhyw elw a wneir o'r gwerthiant yn mynd i Dŷ Gobaith, a chyfraniad at ei Heglwys yn Llandwrog lle y canodd am y tro olaf mewn gwasanaeth Carolau Nadolig. I archebu un o'r grynoddisgiau yma ewch i www.traciaucymraeg.com neu ffoniwch Recordiau Aran ar 01286 831346. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol
 |