| Pan benderfynodd aelodau Capel Ebeneser, Clynnog Fawr, werthu'r Ysgoldy am £50,000 (a fu gynt yn ysgol ragbaratoawl i bregethwyr ac a ddatblygodd o ysgol enwog Eben Fardd) a Thŷr Capel am £40,000, am wythnos yn unig yr ymddangosodd yr hysbyseb yn y wasg. Yn Hydref 2002 y bu hynny. Llwyddodd pwyllgor lleol i'w darbwyllo i atal y gwerthiant gyda'r bwriad o sefydlu Canolfan Hanes ar gyfer hen gwmwd Uwchgwyrfai ac ychydig bach y tu hwnt - i gynnwys ardal Nefyn yn y de hyd at Y Bontnewydd yn y gogledd a Dyffryn Nantlle. Mae cynlluniau cyffrous iawn ar y gweill, o drefnu gweithgareddau i blant yn ystod gwyliau'r haf a'r pasg i ddarparu cylchgrawn lIafar i'r deillion, sefydlu archif ddigidol, gwasanaeth hel achau, gardd berlysiau, ac yn y blaen. Gwnaed cais i Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru am arian Amcan Un i adnewyddu'r ddau adeilad a sefydlu'r Ganolfan am y tair blynedd gyntaf. Yn y cyfamser mae siec Llywodraeth Cynulliad Cymru (o Gronfa Gynaladwyedd yr Ardoll Agregau) wedi cyrraedd yn ddiogel. I ddathlu'r achlysur trefnwyd i'r Parchedig Emlyn Richards, yn ei ddull dihafal ei hun, draddodi darlith ar 'Ysgol yr Ail Gyfle', a hynny yng Nghapel Ebeneser, Clynnog Fawr nos Fercher, 12 Mai am 7 o'r gloch. Llywydd y noson oedd Geraint Jones, Trefor, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Ganolfan.
 |