Dibynent arnynt yn enwedig o safbwynt gwartheg, os na fuasent yn ffodus i gael gwerthu gartref, ond nid oedd yn anodd cael cwsmer i brynu'r defaid, a hefyd yr oedd cigyddion lleol yn barod bob amser i brynu gwartheg a moch tewion.Mi fyddai hanner dwsin neu fwy o ffeiriau yn nhref Caernarfon, dwy yn y Bontnewydd un yn Llanllyfni, Penygroes a Beddgelert, nid oedd yn enwi ond y rhai oedd yn, neu o amgylch Dyffryn Nantlle.
Un yn unig o ffeiriau tref Caernarfon y gallai 'nhad gofio 'i dyddiad, a honno oedd Ffair Ŵyl Grog ar 23 Medi a chofiai mai ar y nawfed o Fai y cynhelid y gyntaf o ffeiriau Bont (y Bontnewydd).
Prif bwrpas ffair Bont oedd cyflogi, er fe aeth fy nhad gyda'i dad â heffer yno un tro i'w gwerthu, ac ar y diwrnod hwnnw yr oedd dwy res o fechgyn ieuainc yn sefyll a'u cefnau ar y ddwy ochr i'r bont. Dyna'r fan i sefyll os byddai arnoch eisiau lle i weini tymor, a thuag yno ar ddiwrnod y ffair y byddai amaethwyr o bell ac agos yn dod i chwilio am was (mae'n debyg fod yno forynion hefyd) a difyr oedd gwrando arnynt yn bargeinio.
Yr oedd plant yr adeg honno'n gorffen eu hysgol yn bedair ar ddeg oed ac yn mynd yn syth i weithio ar y ffermydd, neu i waith glo efallai, ond erbyn heddiw nid oes yr un gwas bach. Ar Fai 21 y byddai ffair Penygroes a hyd y gwelodd 'nhad, prif bwrpas y ffair hon oedd dangos stalwyni. Fe ddeuai tua hanner dwsin neu fwy ohonynt yno, rhai ysgafn a rhai mawr cryfion gyda bagiau mawr yn gorchuddio eu carnau, ac wedi eu cribo a phlethu'r mwng a'r gynffon, fel eu bod yn edrych yn odidog iawn. Fe gofiai iddo weld un o'r stalwyni yn troi ei ben yn ôl a rhoi cic o dan fwrdd india-roc rhyw foi nes oedd y bwrdd a'r india-roc yn chwifio yn yr awyr yn ddarnau mawr a bach.
Mi fyddai yna lawer i gar a cheffyl yn mynd heibio ei gartref ar ddiwrnod Ffair Llanllyfni, ffermwyr a thrigolion o ochrau Nant y Betws a Beddgelert a phob un a'i gar a cheffyl yn edrych ar ei orau, ond yr oedd un ceffyl yn rhagori, a hwnnw oedd ceffyl claerwyn Owen Jones, Hafod Wydr, Beddgelert. Yn ôl pob sôn yr oedd hwn yn anifail arbennig iawn. Roedd pawb yn gwirioni wrth ei weld yn carlamu wrth fynd a dod o amgylch ffyrdd yr ardal. Ond gyda Huw Efans, Drws-y-coed Uchaf, Rhyd-ddu (a oedd yn ffinio â'u fferm hwy) y byddai 'nhad yn mynd. Bu gydag ef am lawer blwyddyn. Mi fyddai'n ei ddisgwyl yn y ffordd am wyth o'r gloch bob bore diwrnod ffair a gynhelid yn flynyddol ar y 6ed o Orffennaf ac fe fyddai ef a Dic ei riant yn cyrraedd yn brydlon i'r amser hwnnw. Pwrpas ffair Llanllyfni yr adeg honno oedd dod â phladurwyr i gyfarfod yr amaethwyr, a chyflenwi arfau angenrheidiol ar gyfer y cynhaeaf gwair, cribiniau a phladuriau ac ati. Ni fyddai un cerbyd yn mynd adref heb rai o'r angenrheidiau hyn wedi eu rhwymo'n dynn wrtho. Bellach ffair bleser yw hi.
Ffair Ŵyl Grog y gelwir ffair Beddgelert ar 21 Medi. Roedd fy nhad yn tynnu at ei ugeinfed pen-blwydd pan aeth yno y tro cyntaf a ffair yn darfod oedd hi yr adeg honno. Prin y buasai'n cofio iddo fod yno o gwbl oni bai am un dyn, a pheiriant o ddyn oedd ef hefyd. Pwy glywodd am Margiad Annwyl? Mae'n debyg mai glas enw arno oedd hwn. Un o Gaernarfon oedd a gwerthu oedd ei grefft, ac fel y dywed yr hen air, buasai'n medru gwerthu tywod i Arab. Gwerthu pethau mân fel oriaduron, gemau ac ati y byddai, ac yr oedd tyrfa fawr o gwmpas ej stondin trwy'r dydd. Nid oedd ball ar ei ymadrodd ac yr oedd yn ddifyr i wrando arno. Mae'n chwith meddwl fod cymeriadau fel yna wedi ein gadael, ac nad oes neb yn cymryd eu lle, a thrist hefyd yw meddwl mai dim ond un o'r hen ffeiriau hynny sydd yn parhau i fod, sef ffair Llanllyfni.
Pan gafodd fy nhad feic fe ddaeth llawer lle yn nes a chafodd fynd i ffeiriau eraill, rhai llawer mwy. Ffair Cricieth oedd un ohonynt. Fe fyddai yng Nghricieth bedair o ffeiriau bob blwyddyn, ond un yn unig y cofiai ei dyddiad sef 29 Mehefin, a hon oedd y mwyaf o'r pedair, yn ôl fy nhad.
Ffair Borth, a oedd yn cael ei chynnal ar 24 Hydref oedd y ffair arall, a dyma'r mwyaf o ddigon. Wedi unwaith cael blas ar hon doedd dim dichon aros gartref. Roedd gan fy nhad dri chyfaill o'r un oed a phob amser byddent yn aros yn y ffair hyd y diwedd pan fyddai pob peiriant a'r twrw wedi distewi.
Cychwyn am adref yn oriau man y bore, a heb fawr o olau ar y beic. Roedd hyn yn beryglus iawn am ryw bedair neu bum milltir o'r ffordd gan y byddai amryw wedi cychwyn adref gyda'u ceffylau, wedi bod yn hel gormod o ddiodydd yn ystod y dydd a dyna lle byddent yn gorwedd gydag ochr y ffordd wedi gollwng y ceffylau i fynd i'r lle bynnag y mynnent a'r penffrwynau am eu pennau.
Robin Ross Williams