Roedd hi hefyd yn llwyddo i wisgo sbectol plentyn ac yn medru gweld y byd trwy'r llygaid diniwed, gonest hynny. Fe'i ganed i fyd o galedi ac i fyd diwydiannol-amaethyddol Rhosgadfan, Arfon. Byd gwahanol iawn i heddiw. Gwahoddwyd dros 30 o blant y presennol, disgyblion yn Ysgol Rhosgadfan ac Ysgol Rhostryfan i weithgareddau a drefnwyd ar y cyd rhwng Cyfeillion Cae'r Gors a Pharc Glynllifon i ddathlu Diwrnod y Llyfr 2003.
Y bwriad oedd annog y plant i ymateb yn greadigol i lenyddiaeth ac i sefyllfa ddiriaethol, eu hannog i gyfleu eu synhwyrau trwy gyfrwng geiriau.
Treuliwyd y bore yn ymweld â Chae'r Gors, cartref plentyndod Kate Roberts sydd bellach yn adfail, a chafodd y plant gyfle i gyfansoddi darn o ryddiaith neu farddoniaeth yn seiliedig ar eu profiadau yng Nghae'r Gors.
Roedd y plant yn edrych yn fyw llygaid y gorffennol ac yn mwynhau'r elfen o gymharu a chyferbynnu, yn chwarae mig â geiriau.
Ar y cyfan, roedd eu gweithiau yn cyfleu y tristwch o weld cyflwr y murddun heddiw, ond eu gobaith heintus yn dyheu am weld y tyddyn yn cael ei ddiddosi.
Tasg wahanol iawn oedd yn eu hwynebu ym Mharc Glynllifon cyfle i brofi naws y safle sy'n dehongli llenyddiaeth yr ardaloedd chwarelyddol, 'Gwerin y Graith'.
Dyma gasgliad o ymatebion artistiaid i'r diwydiant a'r diwylliant chwarelyddol.
Nawr, cafodd y plant gyfle i ymateb i'r dehongliadau artistig cyfle i uniaethu â'r cymeriadau yn narluniau'r artistiaid.
Roedd dychymyg pob disgybl yn drên, yn brysur yn cyfansoddi stori am y fraich sy'n ymestyn o'r llyn ac yn uniaethu â'r plentyn sy'n dal desgl i'w fam, yn dychmygu'r sgwrs rhwng chwarelwyr y Streic Fawr ac yn ail-fyw'r ymgom yng nghegin yr adfail.
Doedd yna ddim taw ar eu cwestiynau na'u syniadau roedden nhw'n ferw o eiriau a disgrifiadau.
Yn bendant, bu'n ddiwrnod llwyddiannus, ac yn gyfle i ni annog plant i ysgrifennu yn greadigol ac yn ddychmygus.
Roedd y berw gwyllt o gwestiynau a syniadau yn brawf o lwyddiant y gweithgareddau.
Cewch chi, ddarllenwyr Lleu, gyfle i ddarllen detholiad o waith y disgyblion. Edrychwn ymlaen at Ddiwrnod y Llyfr 2004!
Sharon Owen