| Roedd y bererindod wedi ei chynllunio i ddilyn ôl troed y diwygiwr Howel Harris ar ei daith gyntaf i'r ardal yn 1741. Aed yn gyntaf i Lasfryn Fawr yn Eifionydd, ac wedi sgwrs ddiddorol yno gan ei harweinydd, mynd ymlaen i Rydyclafdy lle gwelsom y 'garreg farch,' ger y capel. Dywedir mai oddi ar y garreg hon y traddododd Howel Harris ei bregeth yn Eglwys y Plwyf - Eglwys Llanfihangel Bachellaeth. Wedi sgwrs a gwasanaeth byr yn y capel, ymlaen â ni wedyn heinbio i'r egwlys enwog lle mae'r 'lle tawela 'ngwlad Llŷn' yn ôl Cynan, a thrwy ddyffryn coediog Nanhoron i Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog am bryd o fwyd blasus. Bonws ychwanegol oedd cael cyfle yn yr oriel i weld darluniau o waith Thomas Daniel Jones o Nantlle. Aeth bws â ni wedyn drwy Abersoch a Llangïan i fuarth fferm Rhydolion ar wastadedd Porth Neigwl, man arall lle'r arhosodd y diwygiwr ar ei daith. Cael croeso yno gan y teulu, a symud ymlaen wedyn drwy Fynytho i weld Eglwys Llannor, a gwrando sgwrs ddiddorol arall gan ein harweinydd am hanes cythryblus ymweliad Howel Harris â'r lle, a'r erlid ciaidd a fu arno. Nid anghofiwn ychwaith yr hanes am Dorothy Ellis, neu Dorti Ddu a'i chyfraniad anhygoel hi i'r helynt. Ar ran yr aelodau, diolchwyd i John Dilwyn gan John Pritchard am drefnu taith mor ddifyr ac addysgiadol.
 |