BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Lleu
Mr Iorwerth Hughes, Alun Ffred Jones AC a Hywel Williams ASAgoriad swyddogol Tŷ Iorwerth, Penygroes
Ebrill 2004
I ddathlu llwyddiant cynllun diweddaraf Antur Nantlle Cyf. yn yr ardal gwahoddwyd Mr lorwerth Hughes o Landudno (Swyddfa'r Post Penygroes gynt) i berfformio'r seremoni o dorri'r ruban yn agoriad swyddogol adeilad Tŷ lorwerth.
Roedd pawb yn gytun fod dewis Tŷ lorwerth fel enw newydd ar adeilad banc yr HSBC ym Mhenygroes yn ddewis da yn enwedig o glywed anerchiad Mr Hughes ar y 1af o Fawrth. Dan arweiniad Cadeirydd yr Antur, Alun Ffred Jones AC, ac yng nghwmni cydweithwyr, cyfarwyddwyr, cyfeillion a thenantiaid newydd cafwyd agoriad swyddogol haeddiannol ar ddydd Gŵyl Dewi. Cofiwch godi'ch golygon wrth fynd i mewn drwy ddrws y banc i weld y llechen gron sydd yn coffau'r amgylchiad.

Bachgen ifanc iawn oedd Mr Hughes yn dod i fyw i Benygroes, pan ddaeth ei dad (hefyd yn Iorwerth Hughes) yn bostfeistr i'r pentref. Yr oedd y Swyddfa Bost yr adeg honno yn rhan o adeilad y banc a'r teulu yn byw uwchben. Roedd atgofion melys a difyr ganddo am ei hen gartref er mai prin yr oedd yn adnabod yr adeilad erbyn heddiw - serch fod yr olygfa o ffenestri'r llofft am yr Eifl a Chrib Nantlle yn dal yr un.

Drwy gydweithrediad banc yr HSBC llwyddodd Antur Nantlle i brynu ac addasu'r adeilad trwy ddenu grantiau Cwlwm Gwledig Cyngor Gwynedd, Cronfa Agregau Llywodraeth y Cynulliad a Chronfa Grant Gwella'r Amgylchedd a Menter Trefi a Phentrefi Bychan gan Awdurdod Datblygu Cymru. Mae'r ddau lawr uchaf, oedd wedi bod yn wag ers blynyddoedd, erbyn hyn yn cynnwys saith swyddfa safonol gyda mynediad llawn i'r anabl. Gyda'r banc yn gweithredu o hyd ar y llawr gwaelod, daeth tenantiaid newydd i'r swyddfeydd. Mae Cymorth i Ferched Cymru yn brysur yn datblygu cynllun newydd yno, Cris Jones yn cynnig gwasanaeth cyfieithu, Ben Gregory gydag Ymgyrch Nicaragua yn Swyddfa 7 a Chysylltiadau Gwaith yn Swyddfa 4 yn cynnig gwasanaeth arbennig i'r di-waith.

Diolch i Mr Iorwerth Hughes am ei gyfraniad unigryw, i Mr Ian Williams, Cyfarwyddwr Ardal yr HSBC am ei sylwadau, i griw Cysylltiadau Gwaith am eu cymorth ac am y lluniaeth, i'n noddwyr oll ac i bawb arall fu'n cynorthwyo gyda'r gweithgareddau.

Arwyddair Antur Nantlle yw 'Gweithio Er Lles yr Ardal'. Os hoffech drafod syniadau ddaw a budd i Ddyffryn Nantlle 'rydym yn barod ac yn awyddus i wrando.

Galwch heibio'r Ganolfan Dechnoleg am sgwrs gydag aelodau'r staff neu ffoniwch 01286 882688.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy