BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Lleu
Mrs Elizabeth Woodford o Dalysarn enillodd dair gwobr arbennig am drefnu blodau ym Mhenygroes.Sioe Flodau'r Haf
14 Hyfref 2003
Ar ddiwrnod hyfryd dydd Sadwrn, 13 Mehefin cynhaliwyd Sioe Flodau Dyffryn Nantlle yn Neuadd Goffa, Penygroes.

Bu'n sioe lwyddiannus iawn unwaith eto gyda chystadlu da ymhob adran bron a mwynhaodd y nifer dda o'r cyhoedd a ddaeth i ymweld â'r Sioe fôr o liw gyda'r blodau bendigedig a'r llysiau gwych.

Yr unig adran siomedig o ran nifer y cynigion oedd yr adran trefnu blodau, ond boddhawyd y beirniaid i gyd gyda safon uchel y cynnyrch.

Buom yn ffodus iawn eleni i gael Gerallt Pennant, cyflwynydd poblogaidd Clwb Garddio S4C i ddod i gyflwyno'r cwpanau a'r gwobrau arbennig a diolchwn iddo am ddod ac am ei rodd hael i'r sioe.

Yn ystod y gwobrwyo diolchwyd o galon i Mrs Kath Williams am ei rhodd o gwpan newydd hardd ac i'r teulu i gyd am eu rhodd ariannol, er cof am y diweddar Trefor Alun Williams, Bryn Clogwyn, a thalwyd teyrnged unwaith eto i Trefor am ei wasanaeth hir a ffyddlon i'r sioeau ym Mhenygroes. Enillydd cyntaf y cwpan newydd oedd Mrs Edna Hinckley o Lithfaen am ei chasgliad gwych o dri phlanhigyn pot (begonias mawr).

Daeth llwyddiant arbennig eleni i rai o'r cystadleuwyr o'r dyffryn gyda phedwar ohonynt yn ennill cwpanau neu fedalau. Cipiodd Elwyn Jones Griffith, Penygroes, gwpan Dolwen am y cynnig gorau o'r gladioli, Arfon Owen, Penygroes enillodd fedal arian Cymdeithas Genedlaethol y Chrysanths (NCS) am y cawg gorau a thystysgrif yr NCS am y blodeuyn gorau.

Enillodd Miss Elisabeth Woodford o Talysarn dair gwobr arbennig yn adran Trefnu Blodau, sef Cwpan Ffilmiau Ty Gwyn am y cynnig gorau, Cwpan Bob Parry am y marciau uchaf a Thlws Coffa G & E Peacock am y marciau uchaf gan gystadleuydd o Ddyffryn Nantlle ac yn adran y plant cipiodd Cian Rhys o Benygroes Gwpan Siop Glandwr am y cynnig gorau. Enillodd y rhain sawl gwobr arall hefyd.

Aeth y cwpanau a'r medalau eraill ymhellach i ffwrdd gydag Islwyn Williams o Eglwysbach yn ennill Cwpan Masarn am ei gasgliad o lysiau, medal arian yr NVS am y ddysgl orau o lysiau, medal aur a gwerth £10 o hadau Marshalls gan gylchgrawn y Garden News am gasgliad arall o lysiau, Cwpan y Grwp Marchnata am y marciau uchaf yn adran y Dahlias a medal arian yr NDS am y blodeuyn gorau, medalau aur ac arian a gwerth £15 o hadau Unwins, gan y Garden News eto, am ddau gawg o flodau cymysg. Does ryfedd, felly, mai ef oedd pencampwr y Sioe ac enillydd Cwpan Coffa Emyr Rowlands am y nifer mwyaf o wobrau cyntaf drwy'r Sioe.

Cafodd Tom Agate, o Abererch, hefyd gryn lwyddiant yn adran y llysiau gan ennill Cwpan Rebecca Rees am ei nionod mawr, Cwpan Goffa A.W. Roberts, Bod Owen, am y nifer uchaf o bwyntiau a medal arian a gwerth £5 o hadau Marshalls (Garden News) am gasgliad o lysiau.

Aeth yr unig wobr arall yn adran y Dahlias, Cwpan Coffa Nerys a Dilwyn, i Mrs Edna Hinckley eto, am y cawg gorau. Enillodd R.D. Edwards o Harlech fedal hefyd a gwerth £3 o hadau Unwins am gawg o flodau cymysg a Brenda Williams o Lanfairpwll gwpan Bryn Clwyd am y marciau uchaf yn adran y blodau amrywiol a Thlws Her Llwyn Bedw am y cynnig gorau o rosynnau.

Enillwyr eraill o ardal LLEU, y rhan fwyaf yn ennill sawl gwobr, oedd Edith M. Roberts, Alun Ffred Jones, Mary Williams, Raymond Parry, Gwyneth Parry, Alan Humphreys, Aled Evans, Cledwyn Williams, Nancye Parry, Janet Jones, Rhian Roberts ac Ilan Rhys.

Dymuna'r pwyllgor ddiolch o galon i bawb a gynorthwyodd mewn unrhyw ffordd i wneud y sioe yn llwyddiant, i'n noddwyr am eu rhoddion unwaith eto ac i bob un o'r cyhoedd a ymwelodd â'r Sioe am eu cefnogaeth.

Cofiwch ddod eto, yn gystadleuwyr a chefnogwyr, i'n sioe nesaf ar 25 Hydref pryd yr arddangosir Blodau Mihangel (Chrysanthemums), cynnyrch gardd, coginio a gwaith llaw.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy