| Efo Elin Fflur, Meinir Gwilym a Dewi Rhys yn beirniadu, mwynhaodd y gynulleidfa wledd o adloniant i ddangos i'r byd fod na dalent yn yr ardal. Dilwyn Morgan, un o sêr Noson Lawen S4C oedd arweinydd y noson ac mi gafodd lond lIaw a mwy o waith yn cael trefn ar y cystadleuwyr.
Roedd y Neuadd yn llawn dop, a'r tocynnau wedi cael eu gwerthu i gyd ers dyddiau. Roedd rhai hen ac ifanc yn cymryd rhan, pawb a'i dalent ei hun, yn cynnwys cantorion, comediwr, dawnswyr a meim.
Y drefn oedd fod y beirniaid yn penderfynu pwy oedd yn cyrraedd y rownd derfynol, a'r gynulleidfa wedyn yn pleidleisio i ethol yr enillydd.
Y rhai a lwyddodd i gyrraedd y rownd derfynol oedd Thrulsicyrs, criw o genod lleol o Lanllyfni,
Dylan Roberts canwr a gitarydd ofnadwy o dalentog o Lanllyfni ac Annest Garrod o Ben Llyn, cantores 12 oed y tu hwnt o addawol. Y genod o'r Llan ddaeth i'r brig yn y diwedd a del iawn oedden nhw hefyd (gweler y llun).
Cael hwyl a chodi arian at elusennau lleol oedd amcan y noson, a llwyddwyd i gael pobol i wario £2,000 ar y noson, oedd yn gadael elw o dros £1,200 i'w rannu rhwng Cylch Meithrin Llanllyfni, Neuadd Goffa Llanllyfni a Chylch yr Urdd. Mae'r pwyllgor yn ddiolchgar dros ben i'r beirniaid a'r arweinydd am roi eu hamser yn rhad ac am ddim, i'r cystadleuwyr talentog a hwyliog ac wrth gwrs i'r gynulleidfa ffantastig.
 |