| A'r tywydd yn fendigedig o braf fe gafwyd diwrnod gwych yn dilyn ôl troed yr artist Curnow Vosper, a greodd y darlun enwog o'r caple yn ogystal â chlywed hynt a helyn y cymeriadau yn y darlun ac ychydig o hanes y capel unigryw.
Wedi i'r criw gyrraedd am 10.30, fe'u croesawyd yng Ngefncymerau gan Miss Catherine Richards, aelod o'r capel Bedyddwyr enwog a gafodd ei anfarwoli yn y llun ganrif union yn ôl, yn y flwyddyn 1908.
Wedi cael ychydig o'r hanes, fe gynhaliwyd oedfa, gydag aelodau Capel y Groes yn cymryd y rhannu arweiniol, a Miriam Pritchard, Llwyn Onn, ar yr harmoniwm.
Cafwyd cinio hamddenol a braf yng ngwesty'r Victoria ym mhentref Llanbedr gerllaw, cyn cychwyn ar droed ar hyn lôn gefn o'r pentref hwnnw i chwilio am adfail Ty'n y Fawnog, lle'r oedd Siân Owen, prif gymeriad y darlun, a'r un sy'n gwisgo'r siôl batrymog, yn byw.
Daethpwyd o hyd i'r adfail yng nghanol mieri wrth droed coeden sycamorwydden enfawr, ond un aelod o'r criw yn unig fedrodd ddringo i lawr i weld yr union le. Eto i gyd, roedd hi'n braf gallu dweud "fe fuon ni yno".
Cyn gadael y Capel, roedd rhai o aelodau Capel y Groes wedi ail-greu'r darlun, gan gymryd arnynt fod yn fodelau.
Roedd rhai, hyd yn oed, yn dweud fod y fersiwn newydd o'r llun yn rhagori ar y gwreiddiol!
Tybed sawl diafol sydd yn fersiwn 2008 o'r llun? Karen Owen
 |