BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Lleu
Alun Ffred AC yn torri'r dywarchen gyntafTorri'r dywarchen gyntaf
Chwefror 2006
Ni welwyd y fath sglein ar raw yng Nghae'r Gors erioed. Roedd y rhaw, yn nwylo Alun Ffred Jones, A.C., yn adlewyrchu awyr oer y bore yn Rhosgadfan ar 9 Ionawr 2005.
Ei orchwyl pleserus ef oedd torri'r dywarchen gyntaf a rhoi cychwyn ar y gwaith ymarferol o adfer cartref plentyndod Kate Roberts a'i droi'n Ganolfan Dreftadaeth. Fel y dywedodd Dewi Tomos, Cadeirydd Cyfeillion Cae'r Gors wrth ei gyflwyno, "Bu'n ymdrech hir, galed ond yn werth hynny er mwyn troi breuddwyd yn ffaith erbyn heddiw."

Diolchodd i aelodau'r is-bwyllgor, i'r Ymddiriedolwyr, i bawb a gefnogodd y fenter gan nodi'n arbennig lafur y diweddar Guto Roberts ac Eirug Wyn. Diolchodd hefyd i Maredudd ap Iestyn, y pensaer, ac yn arbennig i Sharon Owen a fu'n Swyddog Prosiect am dair blynedd.

Estynnodd groeso i Reolwraig newydd y cynllun sydd eisoes wedi cychwyn ar ei gwaith, sef Siân Eirian Rees Davies, a mynegodd ei foddhad am y ffaith mai cwmni lleol Jones Brothers o'r Bontnewydd fydd yn ymgymryd a'r gwaith adeiladu.

Un a gafodd foddhad neilltuol o fod yn bresennol oedd Megan Williams o Gaernarfon, nith i Kate Roberts, oedd yn cofio eistedd ar y wal yng Nghae'r Gors pan oedd hi'n blentyn bach. Teimlai hiraeth am yr hen ddyddiau, ond ei llawenydd oedd yn ei chalon wrth weld breuddwyd a fi'n cael ei gwireddu. "Fedra i ddim diolch digon i'r Cyfeillion" meddai. "Mae'n nhw wedi ymdrechu mor ddygn."

Soniodd Norman Williams, Ymddiriedolwr a chyn Gadeirydd y Cyfeillion am werth yr etifeddiaeth a adawodd Kate Roberts nid yn unig i ni Gymry Cymraeg, ond hefyd yn rhyngwladol.

Pwysleisiodd y byddai'r Ganolfan yn rhoi sylw i holl gefndir gwaith yr awdures, gan gynnwys chwarelyddiaeth ac yn fodd o ddenu twristiaeth i'r fro, hyn oll yn ogystal â diwallu'r angen am ganolfan hwylus ar gyfer gweithgareddau'r pentref.

Sicrhawyd grantiau gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cronfa Wledig Gwynedd, Yr Archoll Agregau, Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol a Tir a Môr tuag at y prosiect a gobeithir y bydd y gwaith ar y ganolfan wedi ei gwblhau erbyn mis Hydref eleni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy