Daeth hyn ag atgofion melys i lawer un am y dyddiau pan oedd bri ar y Plaza ym Mhenygroes, cofnod a ddaeth i ben yn derfynol pan losgwyd yr hen sinema yn 1964.Yn ei gasgliad o bigion o hen bapurau newydd fe gofnododd y diweddar Gwilym E. Williams, Llys Arthur, Penygroes nifer o gyfeiriadau at y difyrrwch o edrych ar ddarluniau, gan ddechrau gydag adroddiad am 'y Magic Lantern am y tro cyntaf ym Mhenygroes' dros ganrif yn ôl.
Nos Iau, Ebrill y 27ain 1902, yn Neuadd Gyhoeddus Penygroes, traddodwyd darlith gan y Parch. W. E. Jones, yn cael ei hegluro trwy gyfrwng 'MAGIC LANTERN' gan Capten Griffiths, Caernarfon. Dywediad pawb oedd mai da iawn oedd yr oll, a'u dymuniad am gael cyffelyb yn fuan eto.
Fis Hydref 1909 mae hanes am Living Pictures ym Mhenygroes am y tro cyntaf.Nid oes dim yn hoffach, gan y dyffrynwr Nantlle, na gweled Living Pictures. Bu cwmni o Landudno ym Mhenygroes, a Thalysarn, am bedair noswaith, yn difyrru cynulliadau lluosog. Erbyn Chwefror 1913 roedd y pictiwrs yn cyfrannu at wahanol elusennau. Mae Mr Weldman, yn garedig iawn yn rhoddi elw derbynnir nos Lun, yn y Neuadd Drefol, Penygroes, gyda'r Darluniau Byw i chwyddo cronfa tysteb Mr Alex Henderson.
Cofio hefyd am y Nurses. Nos Fawrth, am em ein Seindorf ein Dyffryn Nos Fercher. Ond ymddengys nad oedd popeth a gynigid at ddant y trigolion, oherwydd ddeufis yn ddiweddarach -Bu dau wr dieithr yn Neuadd Drefol, Penygroes, Nos Sul, yn anerch, ac yn dangos darluniau, yn egluro achosion Tlodi yn ein gwlad, a'r Feddyginiaeth.
Traethodd Mr Stephen White, hen swyddog o Scotland Yard, yn Saesneg, a Mr Sam Thomson yn Gymraeg. Ni ddaeth ond ychydig ynghyd i fwynhau y darluniau.
Efallai mai eu dewis o noson, sef nos Sul, oedd y drwg! Ar nos Sul arall, yr un flwyddyn, cynhaliwyd cyfarfod, o dan nawdd yr Eglwysi Rhyddion allan yn yr heol, Water Street, lle cafwyd cyfarfod campus gan weinidogion yr ardal.Mewn cofnod am fis Rhagfyr 1919 darllenwn am Mr C. Jones, 'perchennog y 'Darluniau Byw, a ddangosir yn Neuadd y Dref, Penygroes yn 'rhoddi noswaith tuag at gynorthwyo Miss M. E. Jones, Rhedyw Road, Llanllyfni, sydd wedi ei hamddifadu o'i choes, i gael aelod celfyddol.
Mae'n debyg mai'r un yw'r Mr G. Jones y cyfeirir ato yn gadael y wlad ac yn myned i Awstralia, ei wlad enedigol' yn 1921. Roedd 'boneddwr o Hull wedi prynu'r cyfan ac yn cario'r darluniau ymlaen' ac yn 1924, un or enw Mr Burrows oedd yn dangos 'The Wondering Jew' i gynulliad lluosog.
Yn ystod haf 1928 roedd trigolion Penygroes yn ehangu eu gorwelion, a llu ohonynt yn mynd i 'dreulio eu gwliau i Aberdesach, llecyn dymunol ar fin y môr.
Mae llu on masnachwyr ac athrawon ysgol yno, ac yn canmol y lle meddir. Ond 'bellach ni cheir darluniau byw na drama yn Neuadd y Dref, Penygroes. Daethant i derfyn, nid am fod y bobl wedi blino arnynt, ond am fod yr hen adeilad yn anghymwys ar gyfer y cyfryw bethau.
Eithr po dywyllaf y nos, agosaf y dydd. Ym mis Medi 1932, yn ôl yr hyn a gofnododd Mr Gwilym E. Williams yn yr Archifdy, roedd rhywun yn 'diolch i'r Cyngor Plwyf am drefnu i oleuo y Dyffryn â thrydan; gan ychwanegu 'Bydd o gwrr i gwrr wedi ei oleuo yn ddisglair.
Y cofnod nesaf un ganddo yw'r pennawd PLAZA PENYGROES Tachwedd 1932. 'Boreu Llun, yr oedd nifer fawr wedi cyrchu i faes Buddug, Penygroes, er mwyn gweled y dywarchen gyntaf o sylfaen y darlundy newydd a fwriedir ei adeiladu yn cael ei thorri.'
Roedd oes aur y pictiwrs ar wawrio. Ar ddydd Nadolig 1933 bu 'cyrchu mawr i'r Plaza. Penygroes. Cafwyd ty llawn, rhagor nag unwaith, yn ystod y dydd.'Diddorol yw sylwi mai yn y flwyddyn honno y gwnaed y ffilm 'Men Against Death' yn Chwarel Dorothea, y ffilm y dangoswyd rhan ohoni ym Mhenygroes gan Archif Ffilm a Theledu Cymru ychydig flynyddoedd yn ôl.
E. W. Baines