| Cyrraedd Abergwyngregyn lle'r oedd picnic yn ein disgwyl gyda fflasg o de, brechdanau, ffrwythau a digonedd o siocled, esgus gwych, a chuddio rhai yn fy mhoced at eto. Cychwyn eto a'r coesau ddim yn rhyw hapus o ail gychwyn. Ymlaen a ni am Landegai ac ymuno'r lôn las i Porth Penrhyn. Cerdded drwy ganol stryd fawr Bangor ac ymlaen i'r Felinheli. Seibiant bach ar gwr y Fenai . Alun Bowness yn nodi dwy awr a hanner ar ein beics i deithio hyd marathon a'r dewrion yn Llundain yn ei redeg yn yr un amser. Doedd hynny ddim yn ffaith i godi ein calonnau. Allt eto i ymuno â'r lôn feics a seiclo am gyfeiriad Caernarfon. Pasio wal y castell a dim trên yn yr orsaf i fynd â fi i Dinas. Dyma'r rhan galetaf o'r daith. Y Bontnewydd yn araf iawn yn fy nghyrraedd a dim llawer o egni i gynnal sgwrs. Pawb yn pedlo am eu gorau heblaw Tecs, Dewi a Gwynfor a oedd yn sgwrsio yn hapus braf - wedi hen arfer. Dwi'n siwr fy mod wedi cyfrif bob un goeden sydd rhwng Y Bontnewydd a Dinas. Y coesau yn sylweddoli eu bod bron a chyrraedd pen y daith a'r beics yn cyflymu. I mewn i Benygroes a chroeso mawr yn ein disgwyl ar ochr y ffordd a gwledd yn ein disgwyl yng Ngwesty'r Afr. Diolch yn arbennig i'r reidwyr am ddiwrnod bythgofiadwy - Lowri ac Arwel Thinog, Alun Ffred, Alun a Geraint Bowness, Dewi Talysarn, Emyr, Gwynfor, Huw, Iwan, Ian Arwel, Geraint Pentyrch a Tegid a fydd wedi casglu £1,500.00. *Yr hoelion wyth yn Soar yn cwyno fod arogl embrocation cryf yn yr oedfa fore Sul yn enwedig pan oedd Alun Ffred yn casglu'r casgliad! Iola Huws
 |