Prosiect rhwng Gwasg Prifysgol Cymru a'r Academi Gymreig yw'r gyfrol a charreg filltir yn hanes ein cenedl.
Ddiwedd Ionawr 2008 y cyrhaeddodd Gwyddoniadur Cymru y siopau, ac yn ôl pob sôn mae mynd da ar y gwerthu.
Canlyniad deng mlynedd o lafur diwyd wedi ei gloriannu'n ddestlus rhwng dau glawr yw'r Gwyddoniadur, yn pwyso ychydig dros chwe phwys! Pedwar golygydd oedd i'r fenter, Y Dr John Davies, Menna Baines, Nigel Jenkins a Peredur I. Lynch.
Mi gofiwch i Menna, yn rhifyn Tachwedd 2007 o Lleu, roi cipolwg i ni o'r paratoi gogyfer a'r gyfrol gan ddatgan, yn gwbl onest, i'r gwaith ar adegau fod yn 'hunllef wyddoniadurol!'
Heddiw, rwy'n siŵr fod yr hunllef honno wedi troi'n falchder haeddiannol iddi hi a'i chyd-olygyddion, ac yn sgil ymroddiad Menna, i ninnau yn Nyffryn Nantlle yn ogystal. Wrth ddathlu Gŵyl Ddewi eleni gallwn fel cenedl ymffrostio yng nghynnwys y Gwyddoniadur ac ymfalchïo ein bod yn Gymry.
 |