| Derbyniodd Carwyn James Humphreys o Benygroes ysgoloriaeth o £1000 pan gychwynnodd ei astudiaethau mewn Ffrangeg a Sbaeneg gyda'r Adran Ieithoedd Modern. Mae Siân Angharad Williams o'r Groeslon a Catrin Meirion o Stryd yr Wyddfa, Penygroes wedi derbyn £1000 bob un i astudio Seicoleg yn yr adran a ystyrir ymhlith y goreuon yn y wlad. Derbyniodd Christina Lynette Darbyshire-Jones o Faes Hyfryd, Carmel sy'n astudio tuag at BEd mewn Cymraeg £1000 ac ysgoloriaeth ychwanegol o £500. Mae Catrin Meleri Fretwell o Ffordd Llwyndu, Penygroes sy'n astudio tuag at BEd mewn Celf a Dylunio a Christopher Wayne Evans o Drem yr Wyddfa, sy'n astudio Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol hwythau wedi derbyn ysgoloriaethau o £1000. Cyflwynwyd yr ysgoloriaethau fel rhan o raglen TOP (Talent Opportunities Programme) y Brifysgol, un o'r rhaglenni 'ehangu mynediad' mwyaf o'i fath, gan fod Ysgol Dyffryn Nantlle yn rhan o'r rhaglen. Bu'r disgyblion yn dilyn gweithgareddau a dod ar ymweliad i ddysgu am fywyd mewn prifysgol tra roeddent yn ddisgyblion ysgol.
 |