| 'Dach chi'n cofio'r gyfrol - yr un efo clawr mor biws a'r grug ar Foel Smytho! I ddathlu mae Cae'r Gors yn cynnal Gŵyl y Grug trwy gydol mis Gorffennaf ac Awst i ddathlu'r achlysur. Mi fydd yna nifer o weithgareddau yn cael eu cynnal, fel teithiau cerdded yn seiliedig ar y rhai sydd yn y gyfrol o Gwmpas y Foel gan Dewi Tomos. Chwarel a Phentreffydd y gyntaf ac yn naturiol Te yn y Grug i orffen. Bydd y teithiau yn cael eu cynnal bob prynhawn Sul hyd at 30 Awst, ac yn cychwyn o Gae'r Gors am 2.00 o'r gloch. Yn ystod y daith olaf, bydd perfformiad arbennig pan fydd Begw, Mair a Winni yn llythrennol godi o'r grug.
Roedd y cyfan yn cychwyn, beth bynnag a'r 25 Gorffennaf gyda 'Hwyl yr Haf' yng Nghae'r Gors ac ar dir Clwb Pel-droed Mountain Rangers lle'r oedd cyfle i daflu sbwng gwlyb at y stocs, cael barbeciw, chwarae gemau fel gwthio'r geiniog, peintio wynebau a mwy. Byddwn yn cynnal twrnamaint pel-droed i blant yng Nghlwb Pel-droed Mountain Rangers ar 15 Awst a bydd pen-wythnos agored yma dros Wyl y Banc.
'Dach chi'n mynd i'r Steddfod yn y Bala? Mi fyddwn ni yno drwy gydol yr wythnos, a bydd y dathlu'n parhau. Ar brynhawn Llun yr
Eisteddfod bydd Dr Jerry Hunter o Benygroes, yn lansio cystadleuaeth stori fer newydd sbon ar stondin Prifysgol Bangor yn union cyn y coroni. Ar y dydd Iau bydd te parti ar stondin Academi ychydig o jeli a the go arbennig - gobeithio. Felly dewch draw i Gae'r Gors ac i'r Eisteddfod dros yr haf i ddathlu pen-blwydd Te yn y Grug yn hanner canrif. Ac i fwynhau'r gyfrol sy'n fythol ifanc - er ein bod ni i gyd yn mynd yn hen.
 |