| Yno mae prif reolwyr Gwylwyr y Glannau yn bresennol i wrando ar awgrymiadau a phroblemau'r timau lleol. Dilynir y cyfarfod ffurfiol gan ddawns er budd achosion da, sydd yn cynnig cyfle i gymdeithasu, rhannu hanesion a chyfnewid cyngor rhwng timau lleol.
Yr head honcho (Geraint Williams) a fydd yno yn 2007 i gynrychioli tîm Llandwrog.
Cyngor Gwylwyr y Glannau am fynd ar y môr: Tywydd: Mae camau diogelwch sy'n seiliedig ar dywydd addawol yn ddiwerth pan mae cymylau yn casglu, neu'r gwynt yn codi heb rybudd. Cofiwch ymchwilio i sefyllfa'r tywydd dros y cyfnod y bwriadwch fod ar y môr. Mae hyn yn bosib wrth gysylltu â ni ar y wefan: Asiantaeth Gwylwyr y Glannau Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanolRydym yn cynghori i baratoi ar gyfer y gwaethaf ac nid am y sefyllfa fel yr ydych yn cychwyn. Gall y tywydd newid mewn cyfnod byr iawn.Apwyntiwch unigolyn cyfrifol a fydd yn gwybod a) Pryd rydych yn bwriadu cychwyn?
b) Pryd rydych am ddychwelyd?
c) Ble rydych yn bwriadu mynd?Os ydych yn mynd i drybini, ac wedi methu dychwelyd ar amser bydd y person yma yn gyfrifol am gysylltu â Gwylwyr y Glannau. Bydd y wybodaeth uchod yn werthfawr i fyrhau'r chwiliad, sydd mewn rhai amgylchiadau yn medru golygu achub bywydau.Rhwyfau rhag ofn i'r motor fethu a bydd angen gallu symud y cwch i fannau mwy llochesol.Llanw: mae hwn yn destun elfennol. Mae'r mwyafrif o safleoedd lansio yn ddibynnol ar uchder y llanw. Heb ymchwilio i safle'r llanw mae'n hawdd methu lansio neu beidio gallu dychwelyd oherwydd bod y llanw'n isel. Mae amserlen y llanw am flwyddyn gron ar gael mewn siopau lleol. Os ydych yn berchen ar gwch rydym yn cynnal cofrestr gwirfoddol yn rhad ac am ddim "The Voluntary Safety Identification Scheme CG66", a fydd yn ein galluogi i adnabod eich llong yn gyflymach.I'r unigolyn sydd â diddordeb mewn dechrau hwylio neu un o nifer o chwaraeon dŵr, mae Plas Menai yn cynnal cyrsiau sydd yn rhoi sgiliau a gwybodaeth a fydd yn helpu ehangu'r profiad.Llongyfarchiadau mawr i Geraint Prytherch ac Iwan Edwards, postmyn wrth eu galwedigaeth, oedd yn fuddugol mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan y Post Brenhinol. Mae'r ddau yn mynd ymlaen i gynrychioli Gwynedd yng nghystadleuaeth Cymru. Pob lwc iddynt gan y tîm.
 |