| Cymerodd deg gwlad drwy Ewrop ran yn y cynllun tair blynedd i geisio deall ein tirweddau yn well a dewiswyd Arfon i gynrychioli Cymru. Bu criw Tir Glas Rhostryfan yn cydweithio gyda Dave Thompson o Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd a chynhwyswyd rhwydwaith o lwybrau o gwmpas Rhostryfan, 'Llwybrau drwy Hanes' sy'n mynd drwy Ddyffryn Nantlle ac 'Ar drywydd Lleu a Gwydion' ' a gwyddoch fod yr ardal yma yn gyforiog o enwau llefydd yn y bedwaredd gainc. Cynhyrchwyd taflenni ar gyfer y teithiau a chyhoeddir llyfr mewn deg iaith, yn cynnwys y Gymraeg, fydd yn egluro'r cynllun cyfan drwy Ewrop. Dyma ran o'r wybodaeth sydd ar y daflen 'Llwybrau drwy Hanes. Ar y llethrau sy'n wynebu'r môr yng nghyffiniau Rhostryfan mae rhai o'r olion helaethaf o'r cyfnod cyn-hanesyddol diweddar sydd i'w gweld yng Nghymru, ac ychydig iawn o olion sydd wedi goroesi cystal â'r rhain. Yn ogystal ag aneddiadau'r cyfnod hwn, ffermydd cynnar y cyfeirir atynt fel 'clystyrau o gytiau' mae llawer o'r caeau a gaewyd ac a ddefnyddiwyd gan y ffermwyr hyn i'w gweld yn glir i'r gogledd ddwyrain ac i'r de o'r pentref. Mae siop afreolaidd y caeau a'r gwahaniaeth mewn uchder rhwng ochrau uchaf ac isaf rhai o'r waliau cerrig (canlyniad canrifoedd o aredig ar lethrau ac a elwir yn linsiedi) yn dangos yn amlwg bod rhan helaeth o'r dirwedd hon wedi ei chreu mewn gwirionedd dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl. Drwy ddilyn y teithiau mae bron yn bosibi i chi gamu'n llythrennol i'r cyfnod cynhanesyddol... Mae taith arall yn mynd 'drwy gyfres o gaeau bychain, rheolaidd a oedd ynghlwm wrth dyddynnod bychain a ddatblygodd o ganlyniad i economi deublyg y chwareli llechi a'r tyddynnod a sefydlwyd ar diroedd comin y Goron o 1798 ymlaen. Gallwch fynd i'rchwareli llechi sydd ar Tryfan oddi yma hefyd. Mae rhai rhannau o'r rheilffordd a adeiladwyd er mwyn cludo llechi o'r chwareli hyn i lawr Gaernarfon, erbyn hyn yn llwybrau cerdded ac wedi eu cynnwys yn rhai o'r teithiau hyn. Cofiwch fod pob un o'r henebion unigol ar dir preifat ac na chaniateir mynediad cyhoeddus iddynt heb ganiatâd...Gellir cael manylion am y safleoedd hyn, ac archeoleg yr ardal yn gyffredinol, gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd.'
 |