| Fe'i prynwyd yn 1901 am bris o £578/19/5d (£587.97) oddi wrth gwmni Hunslet, Leeds (rhif 763) a oedd yn enwog am eu hinjians arbennig ar gyfer chwareli llechi Sir Gaernarfon. Gwaith y Dorothea oedd tynnu wagenni llawn rwbel o beiriannau codi Twll Coch i ben y domen gogyfer Plas Gwernor. Ar y cychwyn, rhedai ar y brif bonc i gyfeiriad y cwt powdwr, gan ymestyn y domen ar hyd glan yr afon tuag at Y Mwd. Yn fwy diweddar gosodwyd peiriannau codi newydd ar ben tomen 'Pen Giali' a symudwyd y Dorothea i fyny i'w gwasanaethu. Gallai'r injan dynnu llwyth o 125 tunnell sef gwerth o leiaf wyth ceffyl gwedd, ac mae maint y domen fawr yn dystiolaeth i'r gwaith a gyflawnodd. Oherwydd y rhyfel, caewyd tomen Pen Giali yn 1941, gan fwriadu ei hailagor rhyw ddydd, ond nid felly y bu. Pydrodd y Dorothea a'r peiriannau codi trwy'r 1950au gan nad oedd eu hangen yn yr oes newydd. Buasai wedi ei malu yn sgrap yn 1965 gyda gweddill o'r hen injans codi, oni bai am ddiddordeb perchnogion injans Hunslet eraill mewn darnau ail-law. Cofiaf weld gweddillion prudd y Dorothea yn cael eu symud o'r chwarel yn chwefor 1970 llwyth o rwd digalon. Rhyfeddwyd hyd yn oed 'hogia'r lein fach' pan brynwyd y gweddillion gan ferch nad astudiodd beirianwaith erioed, ond a lwyddodd i adeiladu y Dorothea o'r newydd. Llongyfarchiadau Lleu i Key Bowman a gobeithio y daw â'r injan am wyliau i Gaernarfon rhyw ddydd! Gwynfor Pierce Jones
 |