BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Lleu
TatwsApêl Cymdeithas Arddio
Chwefror 2009
Mae Cymdeithas Garddio Dyffryn Nantlle yn gwneud apêl arbennig i drigolion y dyffryn.

Mae'r Gymdeithas yn gyfrifol am drefnu'r ddwy Sioe Flynyddol - y Sioe Flodau ym mis Medi a'r Sioe Hydref ym mis Hydref.

Yn ddiweddar mae'r pwyllgor sydd a'r dasg o drefnu'r sioeau wedi cael ei fylchu - colli eu hysgrifennydd gweithgar a chydwybodol ym marwolaeth Mrs Eunice Rowlands, a dau arall o'r pwyllgor Mr Cledwyn a Glenys Williams wedi ymddeol o'r pwyllgor ar ôl blynyddoedd o wasanaeth gwerthfawr.

Mae hyn yn golygu mai dim ond chwech sydd ar ôl ar y pwyllgor.

Mae cyfarfod arbennig yn cael ei gynnal yn y Neuadd Goffa, Penygroes am 7.30 nos Lun 16 Chwefror i drafod dyfodol y sioeau.

Os ydych am weld parhad i'r sioeau, dowch i'r cyfarfod arbennig i gynnig eich syniadau a'ch/neu eich cefnogaeth a rhoi eich ysgwydd dan y baich.

Buasai'n resyn pe na fyddai sioeau yn y dyfodol.

Os am fwy o wybodaeth cysylltwch ag un o'r canlynol: Mrs June Jones, Llwyn-y-fuches, Mr Raymond Parry, Llwyn-y-fuches, Mr Elwyn Jones Griffith, Ffordd y Brenin, Mr Hugh John a Beti Jones, Pontllyfni neu Mr Alun Williams, Stryd yr Wyddfa.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy