| Mae'r ganolfan i agor ym mis Mawrth 2006 a bydd yn gwasanaethu'r ardal sydd yn ymestyn o'r Bontnewydd hyd at fynyddoedd yr Eifl ac yn cynnwys Dyffryn Nantlle. Mae Diane Jones, 27 oed, yn ferch i Alan ac Annwen Evans, Garreg Wen Isaf, Penygroes.
O Ysgol Dyffryn Nantlle aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle y graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg. Ei swydd gyntaf oedd Swyddog Prosiectau i Gymdeithas Tai
Clwyd. Roedd y swydd yn un hollol newydd ac am gyfnod penodol o ddwy flynedd. Er yn ddibrofiad, llwyddodd Diane i osod ei stamp ar y swydd yn fuan iawn, cymaint felly fel y penderfynwyd gwneud y swydd yn un barhaol. Ond oherwydd ei hawydd i ddychwelyd i Wynedd, penderfynodd ddilyn cwrs ymarfer dysgu yng Ngholeg Bangor. Cafodd swydd yn ystod ei phrofiad dysgu cyntaf yn Ysgol Ardudwy, lle y bu tan yn ddiweddar. Yno hefyd bu'n trefnu gwahanol weithgareddau ar gyfer y disgyblion mewn cysylltiad ag Urdd Gobaith Cymru ac yn Arweinydd yr Urdd yn yr ysgol. Ar hyn o bryd mae hi'n byw yn Y Waunfawr efo'i phriod, Iwan Wyn.
 |