BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Lleu
Alaw HughesChwaraewr rygbi addawol
Mehefin 2007
Wrth weld ymdrechion pitw tîm rygbi Cymru yn ystod y tymor aeth heibio, rhaid peidio digalonni'n llwyr, oherwydd mae Alaw Hughes yn dangos addewid ddisglair yn y gamp.
Mae'n aelod o glwb Caernarfon ers rhai blynyddoedd, ac yn ystod y tymor diwethaf fe gafodd ei dewis i gynrychioli Tîm Merched dan 14 oed Gogledd Cymru. Yn wir, mewn gem a chwaraewyd yn erbyn tîm Gorllewin Cymru yn Aberystwyth, cafodd Alaw ei henwi yn 'Chwaraewr y Gem'.

Ac yng ngêm olaf y tymor, Alaw oedd y capten. Tipyn o gamp, felly.

Dyma ei holi am dipyn o'i hanes.

O ble daeth y diddordeb yma mewn gem sydd ychydig yn llai poblogaidd yng Ngogledd Cymru? Wedi'r cyfan, mae aelodau ei theulu yn ddilynwyr selog o'r bêl-droed yn dilyn tîm Cymru i wledydd Ewrop. Ac roedd ei diweddar daid, yn ogystal â bod yn fwtsiwr teithiol yn yr ardal, yn un o hoelion wyth tîm Mountain Rangers ers talwm.
Alaw: Mae mam yn dweud mai un o'r cymdogion oedd yma ers talwm a daniodd y diddordeb, ond dwi'n meddwl mai fy nghefnder yng Nghaernarfon gychwynnodd y peth.

Ers pryd mae hi'n chwarae i Dîm Merched Caernarfon?
Alaw: Ers tua blwyddyn, bellach

Pa safle mae hi'n chwarae ar y cae?
Alaw: Maswr, fel arfer, ond dwi wedi ehwarae fel eanolwr hefyd. Mae'n well gen i safle'r maswr.

Pwy yw ei hoff dim/chwaraewr?
Alaw: Erbyn hyn, James Hook ydi fy ffefryn i. Roeddwn i'n licio Shane Williams cyn hynny. Y Scarlets ydi fy hoff dim i.

Ydi hi'n chwarae rygbi yn yr ysgol?
Alaw: Na, does'na ddim tîm merched yn yr ysgol, a cha'i ddim chwarae yn nhîm yr hogia. Ond mae 'na rai o'r genod yn licio chwarae rygbi yn ystod amser-chwarae.

Ydi ei ffrindia yn chwarae rygbi?
Alaw: Mae gen un o fy ffrindia, sef Nikita, ddiddordeb yn y gem ond dydi hi ddim yn chwarae.

Beth ydi ei barn hi am dim Cymru ar hyn o bryd?
Alaw: Roedden nhw'n chwarae'n well heb Stephen Jones yn erbyn Lloegr. Gobeithio y bydd James Hook yn cadw ei le yn y tîm at gemau Cwpan Y Byd at ddiwedd y flwyddyn yma.

Diolch iti, Alaw, a phob hwyl iti yn y dyfodol.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy