| Fe'i ganed ar 23 Mawrth,
1909, yn un o wyth o blant y
Cyng. Robert Griffith a Mary
Roberts, 67 Stryd Fawr. Cafodd ei henwi ar ôl merch
fach i Lloyd George a fu farw. Collodd ei mam yn 1914 pan
oedd yn 5 oed, a bu farw ei
thad yn 1926. Dechreuodd weithio yn 14
oed. Danfonwyd hi ar y trên i
ysgol wnïo yn Afonwen. Daeth
yn ôl i Benygroes i weithio fel
morwyn i Mrs Evans, Eldon
House am ychydig ac yna
symud i Lundain i weithio i
Capten a Mrs Thomas, yn edrych ar ôl eu plant.
Yr oedd y teulu hwn gartref arall Glwysfa, Abererch a
byddai'n dod gyda nhw yno adeg y gwyliau. Bu gyda'r teulu am 8
mlynedd cyn symud yn ôl i Benygroes ac i Gwyddfor at Dr Edwin a Mrs
Shelton Roberts, lle bu am 40 mlynedd hapus, ac fel aelod o'r teulu. Bu'n aelod ffyddlon a gwerthfawr ym Methel ar hyd y blynyddoedd ac
erbyn hyn yn aelod hynaf Capel y Groes. Wedi ymddeol, bu'n byw yn Glwysfa, Stryd Fawr, hyd at dair blynedd
yn ôl pryd y symudodd i Blas Gwilym lle mae'n cael gofal ardderchog
gan y metron a'r staff. Trefnwyd parti iddi hi ac aelodau o'r teulu, yn ôl eu harfer, gan y staff
yn y Cartref. Llongyfarchiadau mawr iddi ar yr achlysur, ac mae pawb yn falch o'i
gweld yn edrych mor dda.
 |