| Da ni wedi bod wrthi'n brysur yn cynllunio'r ardd, yn gosod gwelyau ar gyfer plannu llysiau ac yn adeiladu blychau ar gyfer tyfu blodau. Y gobaith ydi y bydd gennym lawer o gynnyrch erbyn diwedd yr haf nesaf. Da ni wedi dysgu llawer am arddio gyda chymorth Mr a Mrs Peter Harris o Trigonos, Nantlle, sydd wedi bod gyda ni yma yn yr ysgol. Cawson gyfle hefyd i dreulio amser yng ngerddi Trigonos yn helpu gyda'r gwaith. Os oes gennych chi ddarllenwyr unrhyw blanhigion ar ôl eu tocio yn yr ardd neu unrhyw blanhigion nad ydych eu hangen byddwn yn fwy na pharod i'w derbyn. Plîs cysylltwch â'r ysgol i roi gwybod. O'r ardd - Callum Daly ac Anthony Wilkinson
 |