BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Lleu
Ffion Eluned Owen yn derbyn gwobr gan gadeirydd y clwb, Gwenno.Amser prysur i'r ffermwyr ifanc
Chwefror 2008
Doedd dim diwedd ar weithgareddau Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Nantlle yn ystod misoedd olaf 2007 wrth i ddyddiadur llawn dop gadw pawb yn brysur cyn y Nadolig!

Roedd Corwen yn llawn ffermwyr ifanc o bob cwr o Gymru ddydd Sadwrn Tachwedd 17 wrth i Eisteddfod Cymru lenwi'r pafiliwn. Ynghanol y cyffro roedd Natasha Birkett yn cystadlu dros Eryri ar yr unawd offerynnol - da iawn chdi am roi Dyffryn Nantlle ar y llwyfan!

Daeth llwyddiant pellach yng Nghorwen wrth i ddwy o'r Clwb brofi bod talentau ysgrifenedig y Dyffryn yn fyw ac yn iach. Yn dilyn llwyddiant ysgubol y Clwb ar y gwaith cartref yn yr Eisteddfod Sir, braf oedd clywed fod Ela Fôn Williams wedi cael 3ydd drwy Gymru ar ysgrifennu limrig o dan 26 oed a Ffion Eluned Owen wedi cael 1af drwy Gymru am gyfansoddi cerdd o dan 26 ar y teitl 'Gwawr.' Llongyfarchiadau mawr a daliwch ymlaen gyda'r barddoni!

Roedd penwythnos cyntaf Tachwedd yn brysur iawn gyda chystadleuaeth Bowlio Deg Eryri yn digwydd yng Nglasfryn a chystadleuaeth Barnu yn Nhŷ Newydd Llandegai.

Bu teulu Ffridd, Nantlle, yn llwyddiannus iawn ar y Barnu gyda Mari yn cael 1af am farnu wyn tew a bìff o dan 18 a Gwawr yn fuddugol ar yr un cystadlaethau o dan 16. Cystadleuaeth rhwng brawd a chwaer felly oedd yr wyn tew o dan 16, wrth i Gerallt gipio'r 2il wobr! Da iawn chi a llongyfarchiadau am gynrychioli Eryri yn y Ffair Aeaf!

Ar ôl yr holl gystadlu llwyddiannus daeth hi'n amser y Parti Nadolig gyda phawb yn gwisgo'u dillad gorau ar gyfer y noson yng Nghlwb Golff Caernarfon ar Ragfyr y cyntaf. Wedi llond bol o ginio Dolig blasus, fe ddechreuodd yr hwyl wrth i bawb wisgo eu hetiau Nadolig amryliw a chanu ambell i gan ar y carioci!

Cafwyd caneuon o bob math, o 'Chwarelwr' John ac Alun gan Ioan i 'Holding out for a hero' Bonnie Tyler gan y genethod ieuengaf! Yn wir, mae talent guddiedig iawn gan ambell i aelod, swyddog a rhiant! Diolch yn fawr i Gwenno a Sara am drefnu'r noson ac i'r Clwb Golff am adael ni ddod draw - rydym ni'n edrych mlaen i ddod nol flwyddyn nesaf yn barod!

Roedd hi'n noson cystadlaethau Siarad Cyhoeddus Eryri ar Nos Fercher y 5ed o Ragfyr ac er i gar un o'r aelodau dorri lawr ar y ffordd, llwyddodd pawb yn y diwedd i gyrraedd Ysgol Nefyn yn ddiogel ar gyfer noson lwyddiannus iawn! O dan 14 roedd Llio Elenid, Glesni Bowness a Fflur Harman yn 1af am drafod llyfr Eirug Wyn 'Powdr Rhech' gyda Lilo Harman, Llinos Heledd a Iona Wyn yn 2il yn yr un gystadleuaeth. Daeth Elis Wyn, Grug Muse a Dewi Roberts yn fuddugol o dan 16 am gyflwyno araith ac o dan 21 roedd Roberta Williams, Iwan Williams, Catrin Huws Jones a Charlotte Hawksworth yn 1af am drafod a dadlau nifer o bynciau dadleuol.

Yr un oedd y gamp i'r tîm o dan 26 wrth i Sara Pierce, Gwenno Griffith, Ela Williams a Ffion Eluned ddod yn 2il! Llongyfarchiadau pellach i 9 o aelodau'r clwb, sef Fflur, Llio Elenid, Llinos, Dewi, Elis, Roberta, Catrin, Ffion a Gwenno am gael eu dewis ar gyfer timau Siarad Cyhoeddus Eryri sy'n cystadlu yn Theatr Felin Fach Ceredigion ddiwedd mis Mawrth!

Yn ystod Tachwedd a Rhagfyr oer, gwyntog a gwlyb cafwyd digon i'n diddori ar nosweithiau Llun yn neuadd yr Ysgol. Daeth Ed Holden o'r grŵp Genod Droog atom i gynnal gweithdy rap ac aeth y gwobrau am rapwyr gorau Dyffryn Nantlle i Ben ac Iolo!

Ceir remote control oedd yr hwyl un nos Lun, gyda Chris o Sbardyn yn dod draw i ddangos i ni sut mae eu defnyddio a chynnal cystadleuaeth rhwng yr aelodau! Mae'n wir dweud fod yr hogiau wedi gallu meistroli'r gamp yn llawer gwell na'r genod!

Roedd Roland a'i gŵn achub mynydd o Gymdeithas Cŵn Achub Cymru yn ymuno a ni wythnos wedyn wrth i ni gael cyfle i ddod i adnabod gwaith da'r gymdeithas a'r gwirfoddolwyr a chael dweud helo wrth rhai o'r cŵn eu hunain.

Cafwyd taith i'r Ffor un nos Lun er mwyn ymweld a Milfeddygfa Deufor.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy