BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Lleu
Y Babell Lên ar faes y BrifwylGwneud Marc ym Mharc Tredegar
Medi 2004
Daeth haldiad dda o wobrau i'r cylch o'r Brifwyl eleni.
Profiad gwych i drigolion ardal LLEU a ddigwyddaifod yn y Babell Lên b'nawn dydd Llun, 2 Awst oedd gweld tri o'u plith yn esgyn i'r llwyfan i dderbyn gwobrau cyntaf, sef Valmai Williams, Aberdesach, laf ar y Delyneg; Ioan Gruffydd, Y Bontnewydd, laf ar y Soned, ac Alwyn Ifans, Rhostryfan, laf ar y Faled Ddigri.

Roedd ymgais Valmai yn fuddugol (am yr eildro yn olynol) allan o 23 o delynegion, y tro hwn ar y testun Haint. Am y tair orau, fel hyn y dywed y beirniad, Nesta Wyn Jones yn y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau: "... y tair wedi aros yn eu blas a'r tair wedi cychwyn ac wedi stopio yn y lle iawn" chwedl Gerallt Lloyd Owen, meistr pob arabedd, ar Dalwrn y Beirdd yn ddiweddar.

Am soned fuddugol Ioan fe ddywed Vaughan Hughes wrth ddyfarnu iddi naw marc allan o ddeg - "Mae hi'n soned gynnil, gadarn, gyfoes ei neges."

Am faled ddigri 'goch' a 'hollol amharchus' yn ôl y beirniad, yr enillodd Alwyn, 'un y b'ase Dafydd ap Gwilym mewn stitshys yn ei chlywed'. Yn anffodus, 'am resymau cyfreithiol' ni chafodd ei chynnwys yn y Cyfansoddiadau, felly cawn ni ddim darllen yr hyn a yrrodd Dewi Pws i 'werthin'.

Yn ôl y frân wen bu ond y dim i o leiaf un arall o'n beirdd ni ennill un o brif wobraullenyddol Casnewydd a'r Cylch. Roedd dilyniant o gerddi Geraint Lloyd Owen, Y Bontnewydd o fewn trwch blewyn i ennill y Goron. Allan o 28 o ymgeiswyr mewn cystadleuaeth eithriadol o uchel ei safon roedd dilyniant Geraint ymhlith y tri gorau ym marn y beirniaid ac yn 'llwyr haeddu'r Goron'.

Mewn cystadleuaeth ymylol, sef yn y Stomp a drefnwyd gan ACADEMI gwnaeth Ifan Prys o Landwrog strocan unwaith eto, gan ennill y tlws, sef stôl hardd a gyflwynwyd er cof am y diweddar Eirug Wyn, a hynny allan o lu o feirdd.

Yn y pafiliwn, cynrychiolwyd y dyffryn gan Leisiau Mignedd. Llongyfarchiadau iddynt hwy ar gael yr ail wobr, ac i Robert Wyn Roberts, Y Bontnewydd ar ddod yn 3ydd ar yr Unawd Bâs. Un arall a'i gwreiddiau'n ddwfn yn y dyffryn ac a gafodd lwyddiant neilltuol yn y Brifwyl oedd Elain Llwyd o Gaernarfon. Enillodd Elain y wobr gyntaf am Unawd o Sioe Gerdd, Ysgoloriaeth Wilbert Lloyd Roberts, 2il ar y Ddeuawd dan 21ain, 3ydd ar yr Alaw Werin 16-21 oed a chael llwyfan yng nghystadleuaeth Gwobr Richard Burton.

O'r holl enillwyr lleol, mae'n debyg mai'r rhai efo'r wên fwyaf ar eu hwynebau oedd enillwyr cystadleuaeth y Grŵp Roc, sef Anubis o Lanllyfni, a hwy, yn sicr, oedd a'r pocedi trymaf gan iddynt ennill gwobr o £1000 am eu perfformiad ardderchog ym Mhabell yr Ieuenctid.

Llongyfarchiadau i chi un ac oll.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy