Daeth Eben Fardd yn ysgolfeistr i Glynnog Fawr yn 1827. Yr oedd yn fardd o bwysigrwydd cenedlaethol pan oedd yn 22 oed a daeth yn feirniad llenyddol o bwys, yn gyfieithydd, yn bostfeistr, hynafiaethwr a hanesydd lleol a chadwodd ddyddiaduron dadlennol am ran helaeth o'i oes. Fel awdur yr emyn "O! Fy Iesu bendigedig" a gyfansoddodd ar ôl colli ei wraig a thri o'u plant o fewn ychydig flynyddoedd i'w gilydd, y cofir amdano erbyn hyn.
Cychwynnwyd y dathlu yng Nghapel Ebeneser gydag anerchiad tanbaid Yr Athro Hywel Teifi Edwards ar Eben Fardd a'i Oes. Cafodd dderbyniad gwresog iawn gan y gynulleidfa niferus a go brin y cawsai'r darlithydd erioed gyflwyniad rhagorach nag a gafodd gan Geraint Jones, Cadeirydd y Ganolfan.
Y cam nesaf oedd gair gan Dawi Griffiths am ei lyfr "Ar Anwadal Donnau'r Byd" a gyhoeddwyd i ddathlu'r achlysur. Cyflwynodd y copi cyntaf i'r gŵr gwadd, Dr E.G.Millward (uchod gyda'i ferch, Llio, a'r Athro Hywel Teifi Edwards), yr awdurdod pennaf ar Eben Fardd, a lwyddodd i ddod er gwaethaf ei anhwylder. Cyflwynwyd copi hefyd i Tom Bowen Jones, Trefor, awdur yr englyn ardderchog ar gofeb y bardd ym mynwent Eglwys Beuno Sant. Ail lyfr y Ganolfan Hanes oedd hwn. Cyhoeddwyd y cyntaf bythefnos ynghynt ar achlysur dathlu pentref Trefor yn 150 oed. "Trefor" yw ei enw a'r awduron yw Geraint Jones a Dafydd Williams. Mae ynddo bron i 40 o luniau o'r ardal ac fe'i gwerthir yn y Ganolfan.
Traddododd Geraint Jones ddarlith ar yr un noson dan nawdd Cymdeithas Hanes Trefor.
Bydd Cymdeithas Hanes Dyffryn Nantlle hefyd yn rhan o'r dathlu ac mae Arddangosfa Hen Luniau'r Dyffryn ar y gweill. Gofynnir am fenthyg lluniau gan y cyhoedd trwy gysylltu â Sharon Owen (mae ei henw ymhlith swyddogion Lleu) neu â'r Rheolwr (gweler isod).
Agor yr arddangosfa yn yr Ysgoldy oedd y trydydd cam. Medalau arian oedd gwobrau eisteddfodol ei gyfnod ef, yn hytrach na chadeiriau, ac yr oedd chwech o'r rheini i'w gweld yno ynghyd â llyfrau, llythyrau a chreiriau - yn cynnwys crib bach arian i gribo ei fwstas. Gwarchodwyd y trysorau hyn gan deulu Hendre Bach, cartref Elin, yr unig un o bedwar plentyn y bardd i'w oroesi. Ni allai Mrs Eunice Jones fod yn bresennol ac agorwyd yr arddangosfa gan ei merch, Gwenno Mai Parry, Llanaelhaearn. Cedwir y creiriau hyn gan Amgueddfa ac Oriel Bangor ac Archifdy Gwynedd yng Nghaernarfon ond caniateir i'r Ganolfan Hanes eu harddangos yn achlysurol.
Arddangoswyd nifer o greiriau eraill hefyd, yn cynnwys darlun o'r bardd gan Robert Hughes Uwchlaw'rffynnon, eiddo i Lowri a Tecwyn Evans; "cwpan cymun Eben Fardd" (rhodd R.O. Jones, Penygroes); stôl droed y bardd (rhodd Dr J.B. Hughes, Benllech) a Beibl a anfonwyd at Hugh Jones Bodgybi (Tŷ Eben Fardd) yn ffosydd brwydr Ieper, Gorffennaf 1917, gan ei gydweithwyr yng Ngefail Clynnog Fawr. Dadorchuddiwyd y llechen, yn cynnwys y geiriau "Anghofio yw bradychu" (Saunders Lewis) gan Marian Elias Roberts, Ysgrifennydd y Ganolfan. Diolchodd am yr anrhydedd annisgwyl ac am holl waith a chydweithrediad aelodau'r pwyllgor, yn arbennig Geraint Jones, Dr Anne Elizabeth Williams, Myrddin Williams, Dawi Griffiths, hefyd Diane Jones y rheolwr a Branwen Lisa Jones, y stiward rhan amser.
Yna cafwyd te yn y Neuadd wedi ei ddarparu gan Bopty Lleuar a Phopty'r Foel.
Diolchodd J. Dilwyn Williams, dros y pwyllgor, i bawb am eu cydweithrediad parod, yn enwedig Gwynant Roberts, Bangor (yr ymgynghorydd ariannol), swyddogion Capel Ebeneser, Clwb Ffermwyr Ifainc Dyffryn Nantlle a dau swyddog yn arbennig, sef Vivienne Pritchard, Swyddog Ewrop yng Nghyngor Gwynedd a Baudewijn Morgan, Swyddog Cyswllt Amcan 1.
Ariannir y cynllun yn rhannol gan Amcan 1 yr Undeb Ewropeaidd a Chyngor Gwynedd drwy gyfrwng Cronfa Adfywio Lleol Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cronfa Gynaladwyedd yr Ardoll Agregau ar gyfer Cymru, CAE - Awdurdod Pare Cenedlaethol Eryri, ENFYS ac Amgylchedd Cymru.
Gellir trefnu ymweliadau grwpiau trwy gysylltu â'r Rheolwr, Diane Jones, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr, Caernarfon. LL54 5BT. 01286 660 853. Dewch a mwynhewch.