| Pum mlynedd a deugain i'r diwrnod, 1 Rhagfyr 1957 y cafodd T. Elwyn Griffiths (Llenyn fel y'i adnabyddir), ei ddewis yn Ddiacon yn ei fam eglwys. Mae wedi gwasanaethu ei eglwys yn ffyddlon a chydwybodol am y pum mlynedd a deugain ers hynny. Mae wedi bod yn giwrad teyrngar i nifer o weinidogion Soar yn y cyfnod maith Y Parchedigion T. Meurig Matthews, Meirion Evans, Alwyn Lloyd, Meurwyn Williams, Brython Davies, Dewi T. Morris ac Iwan Llewelyn Jones. Bu'r ymwelydd cyson a ffyddlon drwy'r amser ag aelodau mewn gwaeledd, gartref, mewn ysbytai a chartrefi preswyl, neu mewn profedigaeth. Bu'n driw i'w eglwys ac yn gyson yn yr oedfaon os na fyddai ar un o'i fordeithiau rownd y byd. I ddathlu'r achlysur ac yn deyrnged iddo am ei wasanaeth cyfansoddwyd englyn iddo gan un o'i gyd-ddeaconiaid yn Soar, Twm Prys Jones. Cyflwynwyd yr englyn a llun o'r Soar Newydd, wedi eu fframio, iddo gan ei Weinidog, y Parch. Iwan Llewelyn Jones, yn yr oedfa ar y nos Sul arbennig. Talodd y Gweinidog deyrnged glodwiw iddo a diolch am ei wasanaeth a'i gyfeillgarwch. Diolchodd Llenyn am y fraint a'r anrhydedd o wasanaethu fel diacon ac am ei anrhydeddu ar ei noson olaf fel diacon. I gyfarch Llenyn Griffiths am wasanaeth o 45 mlynedd fel diacon yn Soar Hawlio cael hoe pentalar wedi cwys wna'r diacon hawddgar diflino. Erwau Soar drwy'i waith sydd heddiw'n dir âr. Twm Prys
 |