| Roedd Gŵyl Fai 2008 wedi penderfynu cefnogi Canolfan
Walton Lerpwl er cof am Guto Williams, un o blant y Dyffryn, fu farw yno'n 16 oed yn dilyn damwain fis Awst. Cyflwynodd yr Ŵyl £5,000 i Ganolfan Niwroleg Walton a rhannwyd £1,300 i achosion lleol. Er mwyn dangos eu gwerthfawrogiad o'r gefnogaeth a gafodd teulu Guto gan feddygon a staff yr ysbyty, buont hwythau hefyd yn casglu arian i'r Ganolfan. Mae ymdrechion teulu Guto, ynghyd â chriw Gŵyl Fai, wedi sicrhau
cyfraniad o £15,000 i brynu offer hollbwysig i'r uned. Mawr oedd diolch yr ymgynghorwyr a'r nyrsys a deithiodd o Lerpwl i'r Goat ym Mhenygroes i gyfarfod Gwynfor a Nesta a'r pwyllgor ac i gasglu'r siec a rhoi ychydig o gefndir a gwaith yr uned. Am y tro cyntaf, cynhaliwyd gweithgaredd Gŵyl Fai ym mis Rhagfyr gyda chwis Nadolig yn nhafarn y Goat. Cafwyd noson gartrefol a hwyliog cyn y Nadolig. Diolch i Iolo a Rhys unwaith eto am wneud i ni grafu'n pennau ac i Sandra a Spiros am eu cefnogaeth. A dyma ni ar drothwy Gŵyl Fai 2009. Mae'r criw wrthi'n pwyllgora a'r penderfyniad wedi ei wneud i gefnogi apêl Leukaemia. Gobeithio y bydd rhagflas o'r hyn fydd yn
digwydd yn LLEU y mis nesaf. Cofiwch fod croeso i unrhyw un sydd a diddordeb ddod i helpu. Cysylltwch â Wena
ar 01296 881103.
 |