| Dan arweiniad ein hyfforddwr enwog, Ian Rush, roedd Cymru i herio Twrci, Azerbaijan a Georgia. Ar 2 Tachwedd roedd y garfan ar fwrdd awyren oedd yn hedfan draw tua Thwrci o faes awyr Heathrow. Fi oedd yr unig Gymro Cymraeg yn y tîm ac wrth hedfan dros gymylau Ewrop, er nad yn ymwybodol i'r bechgyn eraill, anodd oedd peidio meddwl fy mod, efallai, ychydig yn wahanol, nid o ran y wlad yr oeddwn yn ei chynrychioli ond oherwydd fy nghefndir. Wyth awr yn ddiweddarach bu i mi gyrraedd y gwesty moethus yn Izmir, a mynd yn syth i fy ystafell wely lle roedd dwy ffenestr enfawr. Roedd un yn edrych dros fae hardd lle roedd tai moethus anferth. Roedd y ffenestr gyffelyb yn wynebu twr o dai sianti blêr a thlawd. Roedd y gwahaniaeth yn anghredadwy, ond yn adlewyrchiad gwir iawn o wlad Twrci. Ni ddechreuodd ein harhosiad yn Nhwrci yn dda iawn. Yn fuan wedi glanio, dyma sylweddoli fod ein peli pêl-droed wedi cael traed! Fodd bynnag, ennill fu ein hanes yn erbyn Azerbaijan a Georgia. Roedd tynged ennill y grŵp yn dibynnu ar ganlyniad y gêm yn erbyn Twrci. Gohiriwyd ein sesiwn ymarfer yn Stadiwm Kusadasi ddiwrnod cyn y gêm gan ffederasiwn pêl-droed Twrci heb roi unrhyw reswm i gyfiawnhau eu penderfyniad. Aeth y sefyllfa o ddrwg i waeth noson cyn y gêm fawr, pan fu i holl garfan Cymru fynd yn sâl ar ôl bwyta pysgodyn i de. Lwcus i mi beidio ei fwyta, doedd o ddim yn edrych yn flasus beth bynnag! Cawsom ein tywys i'r stadiwm fore trannoeth gan yr heddlu. Wrth i'r bobl ar y strydoedd godi eu dyrnau yn fygythiol roedd nerfusrwydd ymysg yr hogiau. Roedd y sefyllfa yn y stadiwm yn waeth, gyda'r dorf yn hyrddio cerrig a darnau o arian atom drwy gydol y gêm. Ni wnaeth hynny effeithio dim ar fy hapusrwydd y diwrnod hwnnw. Mae canu 'Hen Wlad fy Nhadau' o flaen torf enfawr o bobl yn deimlad rhyfeddol - roeddwn yn hapus ac yn emosiynol, ond yn fwy na dim, yr ymdeimlad o falchder oedd yn fy nharo. Cyfartal oedd canlyniad y gêm, a olygai fod y ddau dîm yn ennill eu lle yn y rownd nesaf. Ond, wedi cyrraedd yn ôl i'r gwesty y prynhawn hwnnw, suddodd calonnau'r hogiau wrth i bawb sylweddoli fod lladron wedi bod yn brysur yn eu hystafelloedd - rhai pawb, heblaw fy un i. Yn ystod y bore yma, tra roedd y 'glanhawyr' wrth eu gwaith roeddwn i yn fy ystafell yn siarad ar Radio Cymru neu, yn fwy na thebyg, buaswn innau wedi cael colled hefyd. Roedd pawb yn teimlo'n falch iawn o gael cychwyn yn ôl am adre', ond i orffen y cwbl, wrth gerdded i fyny'r grisiau i mewn i'r awyren, dyma un o'r hogia' yn sbotio'i esgid pêl-droed o dan yr awyren. Roedd rhywun wedi cymryd cyllell at ei fag. Er gwaethaf ein problemau, roedd y profiad yn anhygoel, ac os caf y cyfle i gynrychioli Cymru eto byddaf y cyntaf ar yr awyren. Gan: Owain Fôn
 |