Rhag ofn bod rhai ohonoch ddim yn gwbod, cafodd taid dynas sy'n byw ym Mhen Groes 'i saethu wrth ddwad allan o'r banc. Na, nid o flaen yr HSBC na'r Midland na Barclays cyn hynny. Dodd 'i thad ond 1½ oed ar y pryd ac yn cael 'i fagu ym Mecsico. Rodd y teulu wedi bod yn berchnogion cloddfeydd arian yn Real del Monte a Pachuca tua gogladd-ddwyrain i Ddinas Mecsico.
Taid Beryl (gynt o feddygfa Dr Thomson) odd y truan.
Oherwydd 'i ladd bu rhaid i'r teulu symud yn ôl i Gernyw a rhai blynyddoedd wedyn magwyd Beryl ar St. Agnes, Ynysoedd Scilly, cyn iddynt symud i Lanfaglan pan odd hi'n 9 oed.
Buan iawn y dysgodd Gymraeg. Erbyn heddiw mi allach feddwl 'i bod wedi bod yma erioed.
Er mwyn dechra cicio pêl newydd yn y golofn, sgwn i faint o rai eraill ym Mro Lleu sydd â chefndir di-Gymraeg mewn manna neu hyd yn oed gwledydd eraill?
Wnes i rioed feddwl y byddwn i fy hun yn byw mewn
sefyllfa a thipyn o flas rhyngwladol arni, yn enwedig o
gofio bod fy nghartra ar y pryd ar Sgwâr Pen Groes.
Mi ddath wal yr ardd gefn yn wal fach Tsheina ar ôl agor siop fwyd parod drws nesa. Mi ges ymwelwyr cyson yn chwara yn yr ardd, Fung Pin, Fung Min a Joyce. Nhwtha'n 'u tro'n dysgu Cymraeg a minna'n chwsu i gael crap ar 'i hiaith nhw. Crap fu fy ymdrach hefyd.
Ma Sgwar Pen Groes yn dal yn lecyn rhyngwladol a 4 iaith
o leia i'w clywad yno, achos yn yr hen gartra agorwyd siop
fwyd parod Bangladesh/India. Nhwtha'n cefnogi'r
Gymraeg a phlant Shafiqul, y perchennog, mor rhugl â
ninna.
Pwy arall sydd â chefndir gwahanol ym Mro Lleu? Wel, mi
fydd rhaid i ni aros tan y cawn ni ymatab i'r golofn. Ma'n
siwr fod yna ddigon o enghreifftia tebyg allan yn y fro. Mi
arhoswn ni i weld be sy ganddyn nhw i ddeud.
Mi fydd rhai ohonyn naill ai'n rhugl erbyn hyn neu wrthi'n
dysgu'r iaith. Felly, cofiwch, os dysgu Cymraeg rydach chi,
rhowch wbod i ni yn y golofn dipyn o'ch hanas cyn dwad
i'r ardal yma. Hefyd, mi allwch son am y ffordd rydach
chi'n mynd ati i ddysgu'r iaith.
Ma dosbarthiada, wrth gwrs, ym Mro Lleu i'ch helpu.
Alia i ddim credu'r bobol sy'n deud 'i bod yn iaith rhy
anodd i dysgu. Bob tro bydda i'n clywad am ddysgwr mi
fydda i'n cofio am Arthur Lee. Mi fydd llawar yn y fro'n 'i
gofio fel mecanic yn garej J.T., Pen Groes ac, wrth gwrs,
fel ciciwr pel deheuig.
Sgowsar, os cofiaf, odd Arthur. Dwi'm yn meddwl fod
Arthur 'di cael brawddag o wers Gymraeg yn 'i fywyd ar
wahan i gymorth ar yr aelwyd o dro i dro.
Eto, efo'r criw yn y gwaith a'r pentra, mi ddath Arthur yn
rhugl fel pan oddan ni'n cyfarfod dodd dim gwahaniath rhwng 'i Gymraeg ynta a finna. Mi wnath o godi'r rhan fwya ar y glust.
Ma 'na ffordd o drin dysgwr ac ychydig o'r Cymry Cymraeg sy'n gwbod yn iawn beth i 'neud efo nhw. Y peth gwaetha,
wrth gwrs, ydi troi'n gyfan gwbwl i'r Saesnag. Dydi hynny
ddim cymorth i neb a wnan nhw ddim dysgu dim felly.
Gyda llaw, dwi'n siwr y bydd llawar yn y fro am ddiolch i
Beryl am 'i chymwynasa lu a hitha bellach wedi ymddeol o
feddygfa Dr Thomson. Un taid iddi o Fecsico a'r llall,
George Harri Sharpe (1889-1964) yn gweithio unwaith yn
Chwaral Trefor ac ar y trombon yn Seindorf Trefor.
Rodd 'i mam, Gweneth Sharpe (1914-1994) yn hogan o Gyrn Goch ond ym Mhenzance Y dath o hyd i'w chariad. Erbyn hynny, rodd George Harri'n rheolwr chwaral yn Newlyn.
Diolch eto, Beryl am yr hanas.