| Trefnwyd cystadleuaeth goginio arbennig iawn gan Undeb Amaethwyr Cymru mewn partneriaeth â Pharc Cenedlaethol Eryri, Rheilffordd Yr Wyddfa, Hybu Cig Cymru a chwmni Conwy Landrover a oedd yn agored i holl blant Cymru. Roedd gofyn i'r plant baratoi saig a fyddai'n addas i'w weini yn Hafod Eryri, y ganolfan newydd sydd i'w hagor yn ystod yr haf ar gopa'r Wyddfa. Roedd yn rhaid defnyddio cig oen Cymreig neu gig eidion Cymreig i greu saig hollol wreiddiol, blasus a fyddai'n addas i'w gynnwys ar fwydlen y caffi. Llwyddodd plant Ysgol Nantlle i gyrraedd y rownd derfynol a gwahoddwyd nhw i ddod i faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mae Penrhyn ar y dydd Llun i baratoi eu campweithiau ar stondin Undeb Amaethwyr Cymru. Cynnig Cara Thomas oedd Wrap Eryri, saig flasus, ddeniadol ac iach, yn defnyddio tameidiau o gig oen Cymreig a llysiau lleol, a hi oedd enillydd y gystadleuaeth! Derbyniodd siec o £50 iddi ei hun a siec o £200 i'r ysgol i'w wario ar offer coginio.
Bydd Cara yn awr yn cael gwahoddiad i goginio ei saig yn y ganolfan newydd ar gopa'r Wyddfa yn ystod yr Haf. Pob hwyl iddi ar y coginio a gobeithio y caiff bas i'w gwaith ar y trên bach!
 |