Ganed Bruno Grele yng Ngwlad Pŵyl yn 1916. Ers hynny, mae'r gŵr bonheddig a gwylaidd hwn wedi bod mewn nifer helaeth o wledydd ac wedi cael profiadau na all y rhan fwyaf ohonom ond eu dychmygu ac wedi goroesi rhyfel a gaeafau Siberia, ymhlith pethau eraill, cyn ymgartrefu yn Nyffryn Nantlle. Ei ffrind soniodd amdano wrtha'i gan ddweud bywyd mor amrywiol a diddorol, llawn anturiaethau oedd o wedi'i gael, a'i fod am i bobl eraill ddod i wybod 'chydig o'i hanes. Anodd iawn ydi crynhoi hanes bywyd rhywun mor ddiddorol a'r gŵr hwn i erthygl fel hon, ond cewch flas.
Fe'i ganed mewn pentref o'r enw Shunager, yng Ngwlad Pŵyl, a newidiodd ei henw fel nifer o bentrefi a threfi eraill yn dilyn yr Ail Ryfel Byd i Grueler.
Yn yr hen lun sydd yma, fe welwn Bruno tua 9 oed (trydydd o'r chwith) gyda'i ddau frawd, ei ddwy chwaer a'i fam. Roedd ei dad yn ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ar y pryd, a dychwelodd fel llawer i un arall wedi'i anafu.
Ymuno â'r fyddin
Ni fu'r fam na'r tad fyw fawr wedi hynny, a'i chwaer fawr a fagodd y pump ohonynt cyn iddo adael yr ysgol a'i gartref yn 13 oed i chwilio am waith fel prentis crydd i un o'r dinasoedd mawr, Cracow. Yno y bu nes ymuno a'r fyddin yn 21ain oed i wneud ei National Service, ond ni adawodd tan oedd yn 36 oed.
Yn y cyfamser, torrodd yr Ail Ryfel Byd ac fe'i gorfodwyd i ymladd yn Rhyfel Rwsia. Roedd gorfod ymladd mewn rhyfel yn un peth, roedd gwneud hynny yn Siberia yn rhywbeth arall. "Bum yno ddau aeaf," meddai, "doedd yna fawr o wahaniaeth rhwng yr haf a'r gaeaf yno. Roedd hi mor oer yno nes ein bod ni efo coelcerth yn mynd dydd a nos i geisio cadw'n gynnes. Mi roedden ni'n torri coed i'w rhoi nhw i'r fyddin, ac yn cadw'r brigau ar gyfer ein coelcerth. Wrth gwrs, doedd yna ddim bwyd o gwmpas, a dwi'n cofio gorfod blingo ci i'w rostio uwchben ein coelcerth. Mi roedden ni'n falch o unrhyw beth i'w fwyta. Dwi'n cofio sŵn y gwynt - roedd hwnnw'n digon i ddychryn unrhyw un".
O'r fan honno, teithiodd i lawr i Persia, neu Iran, fel yr ydym ni'n ei hadnabod heddiw. Roedd Iran ac Iraq bryd hynny yn derbyn ffoaduriaid o Siberia. Ar ôl Iran, treuliodd rhyw ddwy flynedd yn Yr Eidal. Pwyleg yw ei iaith gyntaf, yn amlwg, ond mae'n siarad Eidaleg a Saesneg rhugl, ac ychydig o Almaeneg a Rwseg. 'Rydach chi wedi bod yng Nghymru ers dros hanner can mlynedd. Beth am y Gymraeg?' meddwn i, gan dynnu ei goes.
"Roedd pawb yn siarad Saesneg efo fi, ches i ddim cyfle i siarad Cymraeg, a doedd neb yn fy annog, a rŵan, tydi 'nghof i ddim digon da."
'Rydyn ni i gyd yn euog o wneud hynny, a ddim yn sylweddoli ein bod yn gwneud mwy o ddrwg nag o les! Er hynny, mae'n cyfaddef ei fod yn deall mwy na'r hyn mae pobl yn ei feddwl - handi iawn ar adegau, meddai!
Dianc o'r carchar
Bu'n garcharor rhyfel deirgwaith a dihangodd bob tro. Cuddiodd mewn seler pobl yn yr Eidal - fel mae'n adrodd un hanes, mae rhagor o atgofion yn dod yn ôl iddo. "Dwi'n cofio'r casgenni gwin yno. Roeddwn i eisiau dianc, ac mi wnes i ddianc. Roeddwn i'n ddigon hy i ofyn i bobl a fydden nhw'n fodlon fy nghuddio", meddai gan newid i'r Eidaleg yr un mor rhwydd wrth ddweud yr hyn a ofynnodd i'r Eidalwyr wrth ofyn a fyddent yn ei guddio. Mi ddeallais i'r ymbil yn y 'prago' (plîs) ar y diwedd yn iawn.
"Mi wnaethon nhw ladd cwningen yn arbennig i mi. Roedd hi'n wydn, ond mi wnes ei bwyta'n ddiolchgar iawn ... ond diawch, mi roedd hi'n wydn. O'r fan honno, mi es i Rufain a chyflwyno fy hun i awdurdodau America yno, a gymerodd fi'n garcharor rhyfel. Roedden nhw mor hamddenol yno fel nad oedden nhw'n disgwyl i awyrennau ddod un noson a'n pledu, a ninnau yn yr awyr agored."
Un peth oedd yn fy nharo drwy'r amser oedd ei fod wedi gweithio'n galed iawn ar hyd ei oes, a'i fod wedi gwneud unrhyw beth i oroesi, wedi gwneud pob math o swyddi ar hyd y ffordd, a ffracsiwn bychan iawn o'r rheiny y cefais i wybod amdanynt. Roedd ganddo fywyd arall cyn dod i Loegr, ond mae'n canolbwyntio ar y presennol.
Nid yw mor barod i sôn am rai pethau, ond pwy all weld bai arno. Gyda bywyd mor hir ac amrywiol, ac anodd iawn ar brydiau, mae'n debyg fod yna lawer o bethau nad yw rhywun eisiau sôn amdanynt, nid nad yw'r gorffennol mor bwysig iddo. Wrth edrych drwy'r albwm lluniau dywed nad yw'n hoffi gwneud hynny bellach. "Maen nhw i gyd wedi marw bron, does 'na ddim pwynt sbïo'n ôl. I chi, stori ydi hi, ac rydach chi'n lecio gwrando arni. Ond i mi, fy mywyd i oedd o, ac roedd yn rhaid i mi fyw trwyddo."
Ymsefydlu yn Lloegr
Ar ôl i'r Ail Ryfel Byd ddod i ben, nid oedd yr awdurdodau'n gwybod beth i'w wneud â'r milwyr, felly fe'u hanfonwyd i Loegr, a hwythau'n dal mewn iwnifform. Yno, cyfarfu a'i frawd, Joseph - roedd yr Almaenwyr wedi ei orfodi i ymuno â'r fyddin yn 16 oed. Nid oedd wedi gweld ei frawd ers cyn y rhyfel. "Roedd Joseph wedi bod yn chwilio amdanaf i," meddai, "ar ôl y rhyfel, roedd llawer o hysbysebion am bobl yn chwilio am eu teuluoedd. Wnes i mo'i adnabod o. Roedd o wedi tyfu i fyny. Roedd y swyddogion yn gyfrwys iawn, ac roedd yna lawer o ofnau am ysbïwyr ac ati bryd hynny. Be wnaethon nhw ond ei gadw o mewn un ystafell a gofyn i mi ddod yno. Ar ôl i'r cyfweliad ddod i ben, mi wnaethon nhw ddweud wrtha'i mai Joseph, fy mrawd, oedd o, a finna ddim yn ei adnabod o. Mi roedd o mewn iwnifform ac wedi priodi bellach - hogyn oedd o pan welais i o ddiwetha - roedd o'n ddyn rŵan."
Ymgartrefodd y brawd hwnnw yn Swydd Stafford, ond bu farw rhyw ddwy flynedd yn ôl. Mae'n dal i gael sgyrsiau ar y ffôn â'i frawd hynaf, Jusio (i'w ynganu, Iashw), sy'n dal i fyw yng Ngwlad Pŵyl, yn 91 oed.
Symud i Gymru
Priododd gyda merch o wlad Pŵyl, Stasia, a chawsant ddau fab, sef David, sy'n byw yn Crewe bellach, a Bruno, sy'n byw yn Tennessee yn yr Unol Daleithiau. Gweithiodd ar fferm yn Norfolk am rai blynyddoedd cyn symud i Gymru i fyw, ar ôl iddynt ymweld â'r wlad am y diwrnod, a'i wraig yn dweud y byddai'n dymuno byw yno. Symudodd i dyddyn Llwyn Bedw yn Nebo, gan ffermio moch a chadw ieir ac ati. Gweithiodd yn chwarel Graianog tra roedd yn Nasareth, gan edrych ar ôl y tyddyn a'i ddau fab tra roedd ei wraig mewn cadair olwyn.
Yno y bu am dros ugain mlynedd cyn symud ymlaen i Dan y Fron, Rhostryfan, ac yna Caernarfon, cyn dod i Lanllyfni. Ymddengys nad oes llawer o unman nad ydy Bruno wedi bod, na llawer ar ôl nad ydyw wedi'i wneud.
"Oes, mae 'na 'chydig o filltiroedd ar y cloc. Ond os nad wyt ti'n gweithio, dwyt ti ddim yn goroesi", meddai. Mae hynny'n wers i ni i gyd.
Er gwaethaf popeth, mae'n dal i gellwair. Mae'n tynnu sigaret roll your own allan o dun bach. "Mi ddisgynnais i ryw ddeufis yn ôl, a fanno ro'n i ar lawr drwy'r nos cyn i'm ffrind ddod acw. Fasa fo byth yn galw yn y bore fel arfer, ond mi roedd o wedi meddwl nad oedd gen i sigarets ar ôl, felly, dyma fo'n dod a rhai draw, a 'nghael i ar lawr. Dyna i ti un stori lle mae sigarets yn achub bywyd yli!"
"Mae rhai pobl yn anodd cael gwared arnyn nhw - mae'n rhaid."
Nia Roberts