| Yn ystod pythefnos o daith ym Mhrydain, dau ddiwrnod yn unig oedd ganddynt i'w treulio yng Nghymru, a hynny i olrhain hanes y Mormoniaid ym Merthyr Tudful, Blaenau Ffestiniog ac Eglwysbach. Ond yr oedd yn rhaid dod i weld Arddangosfa Melin Faesog hefyd. Yr oedd David Roberts, chwarelwr a sefydlodd Gapel Mormoniaid yn Ffestiniog, ond a deithiodd gyda'i deulu i Ddinas y Llyn Halen, i gael rhyddid i addoli, yn ddisgynnydd i Robert Price, melinydd Melin Faesog. Yr oedd hyn yng nghyfnod y llongau hwylio, y wagenni a'r ychen a'r ymosodiadau gan y brodorion yn y 1850au. Yr oedd aelodau eraill o'r teulu hefyd wedi ymfudo i Ddinas y Llyn Halen ac wedi gorfod cerdded am gannoedd o filltiroedd i gyrraedd pen y daith. Ymfudodd deng mil o Gymry yno yn y cyfnod hwnnw. Trefnydd ac arweinydd y daith hon oedd Dr Ronald D. Dennis, arbenigwr ar hanes y Mormoniaid Cymreig. Treuliodd Dr Dennis flwyddyn yng Nghymru yn dysgu Cymraeg i'w alluogi i ddeall "Utgorn Seion" sef cylchgrawn misol y Mormoniaid a hefyd ddyddiaduron a llythyrau'r ymfudwyr. Y mae'n siarad Cymraeg yn rhugl. Nid oedd disgynyddion melinwyr Melin Faesog ymhlith y teithwyr o America y tro hwn ond y mae son fod un ohonynt am ddod y flwyddyn nesaf. Trefnwyd yr arddangosfa hon gan Sophia Pari-Jones, perchennog presennol Melin Faesog ac mae hi'n adnabod Dr Dennis ers rhai blynyddoedd gan y bydd yn dod i weld y Felin o dro i dro. Mae llyfryn Melin Faesog ar werth yn yr arddangosfa. Fe'i crynhowyd gan Mair Eluned Pritchard o deipysgrif Sophia Pari-Jones. Yn ychwanegol at hanes y disgynyddion ceir hefyd yn yr arddangosfa fodel o felin gan Gwilym Jones, Y Felin, Tudweiliog a geirfa'r melinydd ac ati. A ninnau wedi llwyddo i ddenu pobl America i'r arddangosfa ddiddorol hon, ein gobaith yw denu trigolion Uwchgwyrfai yn anad neb i ddod i'w gweld hefyd. Dewch yn llu. Bydd yn agored ar brynhawniau Mercher a Sadwrn 2.00- 4.00 o'r gloch hyd at ddiwedd Tachwedd.
 |