| Ardderchog, ond nid hollol annisgwyl chwaith,
oherwydd fe wyddai nifer ohonom fod Hilma wedi dod yn agos fwy nag
unwaith at ennill cadair ein prifwyl, ac eisoes wedi ennill nifer fawr o gadeiriau a choronau mewn eisteddfodau ledled Cymru gan gynnwys rhai
o'r prif eisteddfodau. Enillodd Hilma y gamp eleni mewn cystadleuaeth
lewyrchus iawn, gyda deg bardd wedi mentro i'r maes.
Dyma rai o sylwadau'r tri beirniad am ei chasgliad o gerddi ar y testun
'Tir Newydd'. Meddai Emyr Lewis: 'Dyma gasgliad sy'n cynnig peth o
farddoniaeth fwyaf trawiadol, pwerus a chofiadwy'r gystadleuaeth'. Ac
meddai Nia Powell: 'Mae'r cerddi'n cydio'n ddi-feth o ran eu cynnwys,
gan gyfleu gwahanol haenau o 'dir newydd' o safbwynt lle, amser a
phrofiad. . Ac yna, Gwyn Thomas: 'Y mae'r bardd yn llwyddo i lefaru fel un
ag awdurdod ganddo, a gwneud hynny'n dawel a hyderus.'
Llongyfarchiadau gwresog i Hilma ar ei champ, ac am dorri ar y
traddodiad o atal cadeiriau a fu yn eisteddfodau'r gorffennol yng
Nghaerdydd. Braf fydd gallu ymfalchïo rŵan fod gennym brifardd ar
banel golygyddol LLEU.
 |