BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Lleu
Criw Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Nantlle ac Alun Ffred ACPadell ffrïo'n helpu'r cleifion
Mawrth 2005
Ymhlith colofnau difyrraf a mwyaf poblogaidd y cylchgronau a'r papurau newydd y dyddiau hyn mae'r rhai sy'n rhoi eu llinyn mesur neu flas eu tafod ar leoedd bwyta, y taste test.
Bu un o olygyddion LLEU mor ffodus â chael mynd i brofi pryd tri chwrs tra arbennig yng nghanol Ionawr eleni. Heb fynd i raffu geiriau yn null y gohebwyr mwyaf blodeuog, yn fyr, dyma'r dyfarniad ar y brecwast amser cinio a ddarparwyd gan aelodau Clwb Ffermwyr Ieuainc Dyffryn Nantlle yn Neuadd Goffa Penygroes un bore Sadwrn.

Lleoliad: Hwylus, ond parcio braidd yn anodd.

Ystafell: Braidd yn biws, ond sbïwch ar eich gilydd os nad ydych yn hoff o liw'r waliau.

Ysmygu: Na, diolch byth.

Awyrgylch: Llawn a swnllyd braf. Dim blodau ar y byrddau, ond be 'di'r ots, 'roedd na sos coch a sos brown.

Gwasanaeth: Penigamp, gwên, bratia glân a gwallt twt.

Bwyd: Llond bol o fwyd di-lol, blasus.

Gwerth am arian: Cwbl ddiguro. Fe ffrïwyd 200 o wyau y bore hwnnw yn Neuadd Penygroes. Ond y peth gorau oll ynglŷn a'r brecwast hwn oedd fod y cyfan oll o'r bwyd wedi ei noddi neu ei roi gan garedigion a bod yr holl elw o dros £1700 yn cael ei gyflwyno i Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd. Agorwyd y Brecwast gan Sioned, Y Fron, Llanllyfni sydd wedi derbyn triniaeth yn Ward Alaw.

Hoffai'r Clwb ddiolch yn arbennig i'r holl noddwyr ac i bawb a dyrrodd yno i fwynhau'r wledd.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy