BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Lleu
Kate RobertsGŵyl Kate Roberts
Hydref 2005
21-23 Hydref
Eleni, i nodi deng mlynedd ers cychwyn yr ymgyrch i sefydlu Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts yn Rhosgadfan, bydd Cyfeillion Cae'r Gors, ar y cyd a'r Academi, yn cynnal Gŵyl Kate Roberts.
Cynhelir yr ŵyl rhwng 21 a 23 Hydref, a bydd y gweithgareddau amrywiol yn apelio at holl ddarllenwyr LLEU.

Nos Wener, 21 Hydref. Arwel Jones, Hogia'r Wyddfa fydd yn cyflwyno ein gwesteion arbennig, sef John Ogwen a Maureen Rhys gyda chyflwyniad newydd sbon ar fywyd a gwaith Dr Kate Roberts. Hogia'r Bonc, o ardal chwarelyddol Bethesda, fydd yn diddanu'n gerddorol gyda'u fersiynau arbennig o rai o'n clasuron. Ymunwch â ni yng Ngwesty'r Celt, Caernarfon ar gyfer y wledd - £6 yn unig yw pris tocyn.

Bore Sadwrn, 22 Hydref. Cawn ddarlith gan Anita Myfanwy yn Llyfrgell Caernarfon am 10.30 ar y testun 'Jane Gruffydd - ei gwydnwch a'i hurddas'. Bydd cyfle i ni hefyd fwynhau rhai o ieuenctid ardal Rhosgadfan yn perfformio rhannau o weithiau Kate Roberts.

Dydd Sul, 23 Hydref. Beth am daith gerdded hamddenol ym mro Kate Roberts i ystwytho'r cyhyrau? Bydd Dewi Tomos yn ein harwain o gwmpas safleoedd y sonnir amdanynt yng ngweithiau'r awdures, ac yn cyfeirio at gyfoeth treftadol yr ardal. Cychwyn o Gae'r Gors am 1.30y.p.

I archebu tocynnau ar gyfer y digwyddiadau, cysylltwch â Sharon Owen ar 01286 882202, Gwen Lasarus ar 01286679465 neu Olwen Dafydd ar 01766 522817.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy