Wedi'r cyfan, wrth gysidro'r peth, mae o'n waith digon rhyfedd - cymryd arnoch eich bod yn rhywun arall, a chael eich talu am wneud hynny! Un peth sy'n sicr oni bai am Ysgol Dyffryn Nantlle, fyddwn i byth wedi ystyried gyrfa ym myd y ddrama o gwbl. Nid bod neb bryd hynny'n astudio Drama fel pwnc. Rhywbeth oedd rhywun yn ei wneud tu allan i oriau ysgol oedd actio, er mai'r athrawon oedd yn bennaf gyfrifol am y cynyrchiadau.
Un athrawes yn benodol oedd yn serennu yn hyn o beth, sef Miss Mat Pritchard, yr athrawes Hanes. 'Roedd ei hymroddiad personol hi i gynyrchiadau drama'r ysgol yn ystod 60au a 70au'r ganrif ddiwethaf yn amhrisiadwy ac 'roeddem yn hynod o lwcus a breintiedig iddi lwyddo i berswadio'r dramodydd John Gwilym Jones o'r Groeslon i addasu dramâu ar ein cyfer - ac i goroni hynny, iddo gyfarwyddo'r dramâu hynny ei
hunan.
Ond drwy ddamwain y llwyddais i ymuno yn y cynyrchiadau drama blynyddol 'ma, a hynny'n bennaf am fod fy meddwl wedi crwydro yn ystod gwasanaeth boreol un diwrnod yn yr ysgol. Cofiaf fy mod wedi cymryd ffansi at ryw hogyn oedd fymryn yn hyn na mi, a hwnnw'n actor penigamp.
Yn ystod fy mlynyddoedd cynnar yn Ysgol Dyffryn Nantlle, cefais fy swyno gan ei berfformiadau. Felly, pan gyhoeddodd y Prifathro ar y pryd, sef Mr R.H. Pritchard-Jones, bod drama'r ysgol am gael ei chastio mewn cyfarfod yn syth ar ôl i wersi'r diwrnod ddod i ben, penderfynais fynychu'r cyfarfod - nid er mwyn cael rhan mewn drama, ond am fy mod wedi cymryd ffansi at un o'r darpar actorion!
Ond wedi i mi gyrraedd y cyfarfod castio, mawr oedd fy siom o ddeall nad oedd gwrthrych fy serch yno o gwbwl. A gwaeth fyth - gofynnwyd i mi ddarllen rhan fy hunan! I goroni'r cyfan, erbyn diwedd y cyfarfod, 'roeddwn wedi cael cynnig rhan, sef Tweeny'r forwyn yn addasiad Cymraeg yr ysgol o
The Admirable Crichton gan J.M.Barrie. Freuddwydiais i 'rioed y byddai hyn yn digwydd i mi!
Gan fod gen i ormod o barchedig ofn tuag at John Gwilym Jones i wrthod y rhan, bu rhaid i mi ymgodymu a'r gwaith actio.
Cofiaf fy nhro cyntaf ar lwyfan fel petai'n ddoe, a minnau'n gorfod wynebu neuadd lawn yr ysgol, a chynnig cwpanaid o de i Ann Beynon, oedd yn chwarae rhan Lady Lazenby. 'Roeddwn yn laddar o chwys, a'm dau ben glin yn curo yn erbyn ei gilydd.
'Roedd cwpan a soser Royal Worcester Miss Jones French yn crynu a thincian yn fy nwylo, ac 'roeddwn i ofn am fy mywyd y byddwn i'n eu gollwng yn fy mhanig! Ond er mawr ryfeddod, wedi i mi yngan sawl 'lein', dechreuodd y gynulleidfa chwerthin a churo dwylo. Ymlaciais rywfaint, a dechrau mwynhau fy hun a mynd i hwyl. Ac erbyn diwedd yr wythnos, wedi i'r cynhyrchiad ddirwyn i ben yn llwyr, 'roeddwn i wedi mopio ar fyd y ddrama, a'm bryd ar fynd i actio!
Cymerais ran mewn dwy ddrama arall yn yr ysgol cyn gadael, sef Canmlwydd, pan chwaraeais ran Ffilomena - rhyw ddynes flin felltigedig a feddwodd yn dwll, a throi'n andros o ges; a Fy Machgen Gwyn I - lle bu i mi bortreadu Modryb Elin, oedd yn llawn asbri a hwyl. (Roedd Mr Dewi R. Jones, Pennaeth presennol Ysgol Dyffryn Nantlle, yn cyd berfformio hefo mi yn hon, gyda llaw, ac 'rwy'n cofio gorfod gafael ynddo, a'i gusanu'n frwd, er mawr embaras iddo ar y pryd!)
Ond nid yr actio'n unig oedd yn fy nghyfareddu. 'Roedd dawn Mr John Davies, yr athro Celf, i greu a chynllunio'r setiau ar gyfer y dramâu hyn yn syfrdanol, ac 'rwy'n cofio gofyn iddo pam mai dim ond y bechgyn oedd yn cael ei gynorthwyo i ymgodymu a'r gwaith. Ei ateb oedd: "Am fod y genod i gyd yn gwisgo mini skirts, ac felly fedran nhw'm plygu i baentio'r setia', sy'n ca'l 'u paentio ar lawr!" A chwarae teg iddo, rhoddodd gyfle i mi ymuno â'r hogia' - ar yr amod 'mod i'n newid o fy sgert gwta i drowsus cyn
gwneud hynny!
Wrth feddwl am y cyfnod hwn yn fy hanes yn wrthrychol, 'does ryfedd i mi wirioni ar fyd y ddrama, gan fod cymaint o hwyl i'w gael wrth ymarfer a pherfformio a chreu, a chymaint o ymdeimlad proffesiynol o gwmpas y cynyrchiadau, fel 'mod i wedi meddwi rywsut ar yr holl beth. Peth hudolus ydy gweld ffantasi yn troi'n realiti o flaen eich llygaid, a chithau'n rhan annatod o'r broses greadigol.
Yn fy marn i, arbenigrwydd cynyrchiadau Ysgol Dyffryn Nantlle yn y 60au a dechrau'r 70au oedd bod yr athrawon (ac 'roedd niferoedd ohonyn nhw mor ymroddgar yn cyfrannu o'u gwirfodd tu ôl i'r llenni) a'r disgyblion yn cydweithio fel un i gynnal llwyddiant y dramâu.
Byddaf yn dal i ryfeddu wrth feddwl mor hawdd fyddai hi wedi bod i mi beidio cael gyrfa ym myd y ddrama.
Fel y crybwyllais eisoes, heblaw am y cyfleoedd a'r anogaeth gefais i yn Ysgol Dyffryn Nantlle, fyddwn i ddim wedi cyfrannu dim o gwbwl i fyd y ddrama Gymraeg. Byddwn wedi dilyn gyrfa hollol wahanol.
Mari Gwilym
Addysgwyd Mari Gwilym yn Ysgol Brynaerau, Pontllyfni ac Ysgol Dyffryn Nantlle. Graddiodd yn y Gymraeg a'r Ddrama yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor. Cafodd Ddiploma mewn Addysg yng Ngholeg y Normal ac enillodd Dystysgrif Sgiliau Cwnsela yng Ngholeg Menai.
Mae'n gyn-aelod o Theatr Ieuenctid Genedlaethol Llundain. Mae'n adnabyddus fel actores a chyflwynydd, ac mae wedi ysgrifennu llawer o sgriptiau a dramâu i blant ar gyfer y theatr, radio a'r teledu - yn ogystal â chyhoeddi llyfrau ar eu cyfer.
Mae hi hefyd wedi bod yn rhan o dimau sgriptio cyfresi "sebon" ar deledu a radio, ac wedi 'sgrifennu ambell i ddrama gymuned.