Trefnwyd y diwrnod gan Hanson Building Products gyda thimau o bob rhan o'r wlad yn cymryd rhan. Y gamp oedd cerdded dros dri mynydd; Werneside, Ingleborough a Pen Y Gent, cylchdaith o bedair milltir ar hugain mewn cyn lleied o amser ag oedd posibl. Hoffai'r pedwar ddiolch i deuluoedd, ffrindiau a chwmnïau lleol am eu cefnogaeth a derbyniwyd £500.00 gan Hanson i bob tîm a gymerodd ran tuag at eu elusennau. Dyma lun ohonynt ar y diwedd gyda choesau blinedig ond yn falch iawn o'u llwyddiant.
 |