Priod â Wynford (Syr Wynff), mam i Bethan (Ffion ym Mhobol y Cwm) a Ruth sy'n feddyg, a nain. Diddordebau - canu gyda Merched y Garth, darllen, cerdded a gofalu am ei wyresau:
'Mae gen i ddwy wyres fach, Begw Non ac Efa Grug, sydd wrth eu boddau yn clywed Nain yn adrodd ei hanes pan oedd hi jest a bod yn union yr un oed a nhw. "Nain, dudwch ych hanas
pan oeddach chi'n hogan bach, pliiiiis?"
"Caewch ych llygaid ta a rhowch ych penna ar y gobennydd... Mi gafodd Nain i geni yn y Cwm, rhan bellaf pentra bach y Fron - er na fydda Nain, mam fy Nhad, yn hoffi clywed neb yn ei alw'n Cwm. 'Hen Gapal' fydda hi'n ei alw, a dyna lle roedd hitha'n byw hefyd."
Merch fenga Aneurin a Gracie Owens oeddwn i, ac roedd gen i dair chwaer ac un brawd, a ro'n i'n mynd i ysgol Bronyfoel lle'r oedd Mistar Parry yn brifathro, Miss Williams, Caeathro yn gofalu am y dosbarthiadau canol, a Mrs Griffiths o'dd yn byw yn Tai Isaf yn athrawes ar y babanod. Dwi'n cofio'n dda yr abacus mawr oedd yn sefyll fel cawr ar un goes ar flaen y dosbarth a Mrs Griffiths yn ei ddefnyddio i ddysgu'r tablau inni bod dydd wrth inni'u llafarganu "Un dau dau, dau dau pedwar" ac yn y blaen.
Amser difyr oedd fy mhlentyndod yn y Fron. Roedd yn bentref byw iawn gyda'r ddau gapel a'r ysgol yn chwarae rhan bwysig ynddo. Arferwn fynd i'r capel dair gwaith bob Sul; oedfa fore a'r hwyr, a'r ysgol Sul yn y prynhawn. Dwy athrawes wnaeth argraff ddofn arnaf oedd Mrs Parry, gwraig y prifathro (welais i 'rioed Smarties mor sgleiniog ag oedd hi'n arfer eu rhannu inni ar ddiwedd y wers), a Mrs Jones, Bodalaw a oedd yn fy nysgu pan oeddwn yn fy arddegau. Arferem drafod y byd a'i bethau ar ddiwedd pob gwers - y dwys a'r doniol - a byddai dagrau tristwch a llawenydd yn agos iawn at lygaid Mrs Jones.
Roedd Cesarea, yn eglwys weithgar iawn - er na chofiaf i weinidog yno 'rioed. Coffa da am yr eisteddfod bob mis Ebrill. A hynny am dair noson, a'r capel yn orlawn. Fy nhad fydda'n dysgu pawb i ganu, a Gruffydd John Jones, Glan Aber, a allai newid cyweirnod ar amrantiad i siwtio pob llais, fyddai'n cyfeilio bob amser. Y 'steddfod fyddai uchafbwynt y flwyddyn. Rhaid oedd cael dillad ac esgidiau newydd, a dyna'r amser y cawn wisgo sanau byr am y tro cyntaf ar ôl y gaeaf.
Fel rheol, byddai Mam wedi bod wrthi'n brysur yn gwn'io a gweu i mi gael edrych yn smart yn y 'steddfod, a byddwn innau'n gorfod cadw o ŵ0ydd y byd yn ystod y dydd rhag i neb weld y cadachau fydda wedi'u rhwymo yn fy ngwallt i greu'r ringlets fyddai ar sioe yn ystod y cystadlu'r noson honno. Byddai'r cystadlu'n frwd bob amser ac yn parhau hyd berfeddion nos, ac erbyn y nos Sadwrn byddai pobol o bob man wedi cyrraedd i gystadlu ar yr her unawd, yr her adroddiad, y pedwarawdau a'r wythawdau, a hefyd y corau. Cymanfa ganu fyddai'n gorffen y dathlu ar y nos Sul gyda 'Nhad yn arwain a Gruffydd John Jones ar yr organ, a byddai mynd mawr ar y canu.
Prif weithgarwch y Band of Hope bob nos Fawrth yn festri'r capel fyddai dysgu'r modulator, ynghyd â chynnal cystadlaethau canu, adrodd, ac amball i gwis neu ddarllen darn heb ei atalnodi. Uchafbwynt y Band of Hope i mi oedd ymweliad Siôn Corn bob blwyddyn. A'r fath wefr a gawn o'i gyfarfod! Dwi'n dal i gofio'r teimlad cynhyrfus yn fy mol pan fyddai'n dod drwy'r drws. Rhaid cofio mai dyma'r unig gyfle a gaem i weld Siôn Corn, heblaw ein bod yn ddigon lwcus (a digon ariannog) i fynd i lawr i'r Nelson yn y dre. A sôn am siop y Nelson, roedd 'na bump siop yn y Fron yr adeg honno, ac un siop gig. Siop Anti Nel yn y Cwm, siop Mr Davies, siop Newydd (roedd Dafydd Jones yn gwerthu glo hefyd), siop Olwen, lle byddai'r papurau newydd yn cael eu gwerthu, y Swyddfa Bost ac, wrth gwrs, siop Evan Thomas, Tegfan, y siop gig. Byddem ni'r plant yn helpu Dafydd Jones hefo'r glo. Byddem yn rhedeg ar ôl y drol (oedd yn llawn sachau glo) a'r gaseg o'r enw Jini, nes byddai'r drol yn wag a'r glo wedi'i ddosbarthu. Yna, cael reid yn ôl yn y drol. Ys gwn i pa liw oedd ar ein dillad ar ddiwedd y daith! Roedd y chwareli yn eu hanterth bryd hynny: Y Fron, Moeltryfan, Pen yr Orsedd, Cilgwyn, a Dorothea. Heblaw bod fy nhad yn chwarelwr (a'r rhan fwyaf o ddynion y pentra) roeddent yn atynfa am resymau gwahanol i ni'r plant. Byddem yn mynd yn rheolaidd i chwaral y Fron i chware tŷ^ bach gan dreulio rhan fwyaf o'r dydd wedi ymgolli yno. Aem â phicnic hefo ni, weithiau. Dydw i ddim yn cofio i Mam boeni amdanaf 'rioed, er bod peryglon diddiwedd yno. Ond byd o beryglon diniwed oedd bywyd yn y Fron bryd hynny.
A doedd dim yn beryclach na chael reid ar fws Nedw i Cwm ac yn ôl! Arferem stopio'r bws ar ganol y pentra drwy ddal ein dwylo allan a llafar-ganu fel côr unsain "Pas i Cwm ac yn ôl, plîs?" Fyddai Nedw byth yn gwrthod, ond yn ddi-ffael byddai'n rhaid talu am y reid ar y ffordd nôl drwy roi sws go sydyn iddo cyn y caem neidio i lawr o'r bws. Bob nos yn yr hydref a'r gaeaf, byddem ni'r plant yn 'chwara dan y lamp' yn ymyl y Tai Cyngor. Dyna lle roedd pawb yn ymgynnull i chwarae gemau fel 'tick off the floor', 'truth, dare, kiss or
promise', a chwara cuddio. Roedd hi'n ddiogel iawn i fod allan yn y tywyllwch 'radag honno, roedd pawb yn 'nabod pawb rywsut, dyna beth oedd mor braf.
Yn fuan iawn, mi ddois yn aelod o'r parti canu enwog oedd yn y Fron bryd hynny. Aelodau'r parti oedd: Elizabeth a Margiad Tegfan, Jean, Ann Florence, y diweddar Ann Lorraine, Beryl, Eifiona fy chwaer, a fi - a 'Nhad a Gruffydd John, unwaith eto wrth y llyw. Ffurfiwyd y parti er mwyn cystadlu yn eisteddfod Nadolig Rhostryfan, ond wedyn enillodd y parti sawl gwobr, gan gynnwys cystadleuaeth Sêr y Siroedd ar y BBC. Byddem hefyd yn mynd o gwmoas gogledd Cymru yn cynnal cyngherddau di-rif. Cawsom flynyddoedd o fwynhad hefo'r parti bach, a byddai'n hyfryd trefnu aduniad eto gan na fedrwn fod yn yr aduniad d'wethaf.
Atgofion melys iawn sydd gen i o mhlentyndod yn y Fron ... Rhoswch funud, imi gal diffodd y olau mawr gan fod y ddwy fach wedi cysgu erbyn hyn ... Dyna ni. A rŵan, wrth eistedd yn ôl yn y llwyd-olau dwi'n parhau i hel atgofion - am fy nhaith dd'wethaf i'r Fron y llynedd. Pan gyrhaeddais yno - a heb fod yno ers tro - cefais sioc a syndod. Och a gwae! Ble 'roedd y capel? Ble mae'r siopau i gyd wedi mynd? Beth sydd wedi digwydd i dŷ Nain yn y Cwm? Mae'n rhaid i mi gyfaddef mai crïo wnes i. Erbyn hyn, gallaf gyfri ar un llaw'r bobol hynny rwy'n eu hadnabod yno. Yr oeddwn yn falch, sut bynnag, o weld bod yr ysgol yn dal ar agor, ond am' ba hyd? Ond rhoswch funud eto. Pam mod i'n anobeithio cymaint, d'wedwch? Oherwydd mai hel atgofion ydw i - ac mae pob hel atgofion yn cael bod pob doe yn rhagori ar heddiw. A phan fydd Begw ac Efa yn edrych yn ôl ar eu plentyndod, mi wranta y byddan nhwtha hefyd yn hiraethu - oherwydd creaduriaid felly ydan ni.
A dyna pan mod i'n medru uniaethu hefo'r bardd R.O., Llanllyfni.
'Heddiw dir yw fy hiraeth
Am erwau ffridd, am wŷr ffraeth;
Am rin y bobl werinol,
Am nef na ddaw mwy yn ôl'.