| Rhedynen fechan ysgafn dryloyw lluosflwydd yw'r Rhedynach Teneuwe Tunbridge (Hymenophyllum tunbrigense) sy'n tyfu ar y mynydd-dir mewn hafnau llaith cysgodol ar greigiau asidig, ac weithiau ar foncyffion coed.
Mae bron chwarter canrif wedi mynd heibio ers i mi ddod ar ei thraws am y tro cyntaf yn Nyffryn Nantlle, a hynny ar Glogwyn-y-garreg, uwchlaw Drws-y-coed. Yno, yn llechu rhwng y meini, fe'i cefais yn garpedi cilfach laith gan addurno'r llwydni caled gyda'i gwyrddni cyfoethog. Ymhen blwyddyn, gwelais fwy nag un safle lle tyfai'r rhedynen hon ymysg y creigiau ar y llethr uwchlaw safle hen waith copr Simdde'r Dylluan yn Nrws-y-coed. Wedi i mi gael caniatâd y tirfeddiannwr, bûm yn sbrowta ar hyd ceunant Afon Talymignedd gan ddarganfod tyfiant toreithiog o'r Rhedynach Teneuwe yma hefyd. Gan fy mod yn un sy'n hoff o droedio'r ucheldir, byddaf yn aml yn ymweld â mynydd y Graig Goch, Cwm Silyn a Chrib Nantlle, ac wrth ddringo o Gwm Dulyn unwaith darganfûm safle arall eto o'r rhedynen hon. Mae'n wybyddus bod y planhigyn hwn yn ffafrio cynefin o naws asidig, a dyna, mae'n debyg, sydd i gyfrif am y nifer o safleoedd sy'n bodoli yn Nyffryn Nantlle a'r rheini mor agos i'w gilydd. Ymhlith y safleoedd eraill lle y'i gwelais ar fynyddoedd Eryri mae rhwng clogfeini enfawr Tryfan, Ceunant Mawr ger Llanberis, Nantgwynant a Cheunant Llennyrch ger Maentwrog, yr oll yn fannau cysgodol a llaith. Er goroesi casglu anghymedrol y 19eg Ganrif mae dosbarthiad daearyddol y rhedynen hon wedi bod yn weddol gyson drwy Brydain, ond bu gostyngiad sylweddol yn ardaloedd de-ddwyrain Lloegr er 1950 yn dilyn colli sawl coedwig gyntefig. Mae'r ffaith bod y cyfan o safleoedd y Rhedynach Teneuwe Tunbridge a nodir uchod o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri yn galonogol ar gyfer sicrhau dyfodol ein planhigion brodorol.
 |