Ychydig wythnosau yn ôl daeth dwy awyren 'Hawk' o'r Fali ar wib dros y dyffryn yma. Ynddynt roedd dau o hogia o'r Nant yn cael gwibdaith eu bywyd. Yr hogia oedd Dafydd Foxhall a Luke Griffin ac mae'r ddau ers peth amser yn gadetiaid efo'r awyrlu yng Nghaemarfon. Yn ystod yr amser yma mae'r ddau wedi cael llawer mantais a chyfle i brofi a chwblhau profiadau gwahanol. Fel cydnabyddiaeth o'u hymdrechion a'u llwyddiant gwahoddwyd hwy gan Brif Swyddog yr Awyrlu yn Y Fali i dreulio dau ddiwrnod yn y maes awyr i gael profion ffitrwydd, mesur am siwtiau hedfan a helmedau a'u hyfforddi sut i weithio 'controls' awyren jet a beth i'w ddisgwyl wrth hedfan ar gyflymder ac mor uchel. Daeth yr uchafbwynt ar yr ail ddiwrnod pan gawsant bob yn un cyfle i fythgofiadwy o gwmpas Cymru mewn 'Hawk' - a chyfle i'w hedfan eu hunain! Buont yn yr awyr am yn agos i awr a hanner a'r ddau yn mwynhau bob munud. Mae Luke yn bwriadu ymuno â'r awyrlu ym mis Medi. Dywedodd Dafydd, pan oeddynt yn hedfan yn isel uwch yr A55, ei fod yn gallu gweld y bobl yn glir i mewn yn eu ceir ar y briffordd. Felly, pwyll pia hi pan fo'r awyrennau yn hedfan yn isel; cofiwch, maent hwythau yn ein gweld ni!
 |